Bydd tîm pêl-droed Prydain yn yr Olympics yn chwarae gêm gyfeillgar yn Middlesbrough ar Orffennaf 20, yn erbyn Brazil.

Bydd tîm y merched yn wynebu Sweden ar yr un ca ear yr un diwrnod, ond nid yr un amser.

Hon fydd gêm gynta’ tîm o ddynion yn chwarae dan faner Prydain Fawr ers 41 o flynyddoedd.

Mi chwaraeodd dîm Prydeinig mewn gêm ragbrofol Olympaidd yn erbyn Bwlgaria yn 1971, ac nid ydyn nhw wedi chwarae mewn Gemau ers 1960.

Mae’r gwledydd Celtaidd wedi gwrthwynebu ailffurfio tîm pêl-droed Prydain ar gyfer yr Olympics, oherwydd bod ofn y gallai arwain at ddileu timau Cymru a’r Alban.

Ond mae sêr fel Gareth Bale ac Aaron Ramsay wedi cytuno I gael tynnu eu lluniau mewn crysau Prydain.