Mae’r Sgarlets wedi cyhoeddi heddiw bod Iestyn Thomas yn ymddeol, tra bod adroddiadau bod Paul James o’r Gweilch yn ymuno â Chaerfaddon.

Nid oedd Iestyn Thomas wedi chwarae ers dechrau Chwefror o achos anaf i’w wddf, ac yn dilyn derbyn cyngor meddygol mae’r prop pen rhydd 35 oed wedi penderfynu ymddeol ar ôl 10 tymor gyda Llanelli a’r Sgarlets.

Dros y degawd diwethaf roedd yn un o bropiau pen rhydd mwyaf cyson Cymru ac er iddo ennill 33 o gapiau bu’n anlwcus i beidio ennill mwy. Chwaraeodd dros y Sgarlets 214 o weithiau, a chafodd y fraint o chwarae dros y Barbariaid ym Mehefin 2011.

Paul James am fynd i Gaerfaddon

Mae bod prop pen rhydd rhyngwladol arall, Paul James, am adael nyth y Gweilch a symud i Gaerfaddon.

Mae cytundeb James, sydd wedi chwarae 177 o weithiau dros y Gweilch, yn dod i ben yr haf yma.

Mae nifer o enwau mawr eraill wedi cyhoeddi eu bod nhw’n gadael y Gweilch yr haf yma, gan gynnwys Tommy Bowe, Huw Bennett a Nikki Walker, tra bod Shane Williams yn ymddeol.