Parc y Strade
Mae’r Llys Apêl wedi gwrthod cais i gynnal archwiliad barnwrol i godi tai ar Barc y Strade, hen gartref clwb rygbi Llanelli.

Roedd Cyngor Sir Gâr wedi rhoi sêl bendith i gais Taylor Wimpey i godi 355 o dai ar y safle, er gwaethaf ymgais gan ymgyrchwyr i orfodi i Lywodraeth y Cynullaid i ymyrryd dros bryderon amgylcheddol.

Fe eth yr ymgyrchwyr â’r mater i’r Llys Apêl, sydd wedi penderfynu o blaid y datblygiad tai heddiw.

“Gwastraff amser ac arian”

Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir Gâr, Mark James, fod yr achos wedi bod yn “wastraff amser ac arian” ac y bydd y Cyngor yn “ceisio adennill ein costau ar ran y trethdalwyr”.

“Dyma enghraifft anffodus arall o grwp bychan o bobl yn Llanelli yn ceisio atal unrhyw ddatblygiad rhag digwydd, gan gynnwys ysgol newydd Ffwrnais a datblygu tir diffaith ar safle Grillo,” meddai.

“Mae hyn yn golygu bod Llanelli’n colli swyddi adeiladu a buddsoddiad ar adeg pan mae eu hangen nhw’n ddirfawr.”