Terry Griffiths
Mae’r cyn-bencampwr snwcer Terry Griffiths wedi dweud ei fod am roi’r gorau i redeg ei glwb snwcer enwog yn nhref Llanelli.
Agorodd Terry Griffiths y Matchroom yn 1987 pan oedd ef yn un o enwau mwyaf y byd snwcer, ond mae wedi dewis peidio ymestyn y les ar yr adeilad pan ddaw i ben y flwyddyn nesaf.
“Rwy’n 65 eleni a mae lot o waith wrth y clwb, ar ben yr hyfforddi a’r sylwebu dwi’n gwneud. Sai’n gallu multi-tasko cystal ag o’n i” meddai Terry Griffiths, a ddaeth yn seren dros nos pan enillodd bencampwriaeth snwcer y byd yn 1979..
“Y peth pwysig i fi yw bod y lle’n parhau yn glwb snwcer. Mae cymaint o chwaraewyr ifanc yn mynd yno a dwi ddim eisiau eu gadael nhw heb unman i ymarfer.
“Mae enwau mawr y byd snwcer i gyd wedi chwarae yno. Dros y blynyddoedd mae pobl wedi dod yno o’r byd i gyd.”
Rhagor yng nghylchgrawn Golwg wythnos yma