Lido Afan – Y Drenewydd

Bydd camerâu Sgorio yng Nghoedlan y Parc, Aberystwyth brynhawn Sadwrn ar gyfer rownd derfynol Cwpan y Gynghrair rhwng Lido Afan a’r Drenewydd.

O ystyried safleoedd y ddau dîm yn nhabl terfyno Uwch Gynghrair Cymru efallai ei bod hi’n dipyn o sioc gweld y ddau dîm yma yn rownd derfynol y cwpan. Mae’r Drenewydd wedi disgyn o’r gynghrair ar ôl gorffen ar waelod y tabl a dim ond dau safle yn uwch y gorffennodd Lido gan osgoi’r gwymp ar wahaniaeth goliau yn unig.

Wedi dweud hynny, mae’r ddau dîm wedi dangos ar gyfnodau’r tymor hwn eu bod yn ddigon da i gystadlu â thimau gorau pyramid pêl droed Cymru. Aeth Lido ar rediad da iawn yn y gynghrair o ddiwedd Hydref hyd at ddiwedd Mawrth a dim ond dechrau a diwedd gwan i’r tymor a achosodd iddynt orffen mor isel yn y tabl.

Cafodd y Drenewydd ar y llaw arall ddiwedd da i’r tymor gan golli dim ond tair o’u naw gêm gynghrair ddiwethaf. Ond rhy ychydig rhy hwyr oedd hi wrth i gyfnod ugain mlynedd y clwb yn yr Uwch Gynghrair ddod i ben ar y Sadwrn olaf ond un.

Un peth sy’n sicr yw bod y ddau dîm yn llawn haeddu eu lle yn y rownd derfynol ar ôl trechu timau mawr ar hyd y daith. Yn dilyn buddugoliaethau dros Aberystwyth a’u gelynion lleol, Port Talbot, fe lwyddodd Lido i guro Castell Nedd yn y rownd gynderfynol. Roedd gôl Carl Evans yn ddigon i gipio buddugoliaeth oddi cartref yn y cymal cyntaf cyn i Daniel Thomas a Carl Payne sicrhau buddugoliaeth o 2-1 ar Stadiwm Marstons i’w rhoi yn y rownd derfynol.

Ond os wnaeth Lido yn dda i guro’r tîm a orffennodd y tymor yn drydydd aeth y Drenewydd un neu hyd yn oed ddau yn well trwy guro Bangor a’r Seintiau Newydd ar y ffordd i’r ffeinal. 6-2 oedd y sgôr dros ddau gymal yn erbyn Bangor yn y chwarteri cyn iddynt guro’r Seintiau ar y rheol goliau oddi cartref yn y rownd gynderfynol.

Mae’r ddau dîm wedi cyfarfod bedair gwaith y tymor hwn a’r Drenewydd sydd â’r record orau hyd yn hyn gyda dwy fuddugoliaeth ac un gêm gyfartal. Mantais seicolegol i’r tîm o’r canolbarth efallai felly, yn enwedig o ystyried y sgôr yn y cyfarfyddiad diwethaf rhwng y timau, 6-1 i’r Drenewydd oddi cartref yn Stadiwm Marstons dair wythnos yn unig yn ôl.

Siawns y bydd digon o goliau a digon o gyffro felly wrth i Lido Afan a’r Drenewydd geisio gorffen tymor siomedig mewn steil brynhawn Sadwrn.

Bydd Sgorio yn dechrau am 15:00 gyda’r gic gyntaf o Aberystwyth am 15:10.