Aaron Ramsey
Mae is-lywydd FIFA ym Mhrydain, Jim Boyce, wedi wfftio’r syniad y gallai tîm pêl-droed Prydeinig gymryd rhan yng Ngemau Olympaidd y dyfodol.
Daw ei sylwadau wedi i’r Gweinidog Olympaidd, Hugh Robertson, ddweud y dylai tîm pêl-droed Prydeinig gystadlu ym mhob Gemau Olympaidd o hyn ymlaen.
Fe fydd tîm pêl-droed Prydeinig yn cystadlu am y tro cyntaf ers degawdau yn y gemau yn Llundain yr haf yma, er gwaethaf gwrthwynebiad gan gymdeithasau pêl-droed Cymru, yr Alban, a Gogledd Iwerddon.
Dywedodd Jim Boyce na fyddai’n bosib parhau i gynnal tîm Prydeinig oherwydd y byddai’n rhaid iddo ennill ei le yn y gystadleuaeth o flaen llaw.
Ar hyn o bryd defnyddir y Bencampwriaeth Ewro dan-21 er mwyn penderfynu pwy sy’n cael cymryd rhan yn y Gemau Olympaidd.
Mae Lloegr, Cymru, yr Alban, a Gogledd Iwerddon yn cystadlu yn y gystadleuaeth honno ar wahân.
Fe fydda’n rhaid i FIFA gytuno y byddai ‘Team GB’ yn cael meddiannu lle yn y Gemau Olympaidd pe bai unrhyw un o’r timoedd rheini’n cymhwyso.
“Roeddwn i o’r farn mai’r unig reswm yr oedd ‘Team GB’ yn cael chwarae pêl-droed yng Ngemau Olympaidd 2012 oedd oherwydd bod y gemau’n cael eu cynnal yn y wlad,” meddai Jim Boyce.
“Fe fyddai yn amhosib i’r gwledydd unigol gyrraedd y Gemau Olympaidd ar wahân ac yna cystadlu fel un tîm.”
‘Anwybyddu’r holl wleidyddiaeth’
Dywedodd Hugh Robertson ei fod eisiau gweld Prydain yn cystadlu yn y pêl-droed ym mhob un o’r Gemau Olympaidd o hyn ymlaen.
“Mae’n gyfle gwych i ddynion a merched ifanc gynrychioli eu gwlad yn y Gemau Olympaidd,” meddai.
“Rydw i eisiau defnyddio’r gemau eleni fel cyfle i sefydlu tîm pêl-droed Prydeinig ym mhob Gemau o hyn ymlaen.
Gobeithio y bydd modd anwybyddu’r holl wleidyddiaeth a sicrhau ei fod un un peth da a ddaeth o ganlyniad i’r gemau yn Llundain.”