Mae Mark Williams wedi cael ei fwio tra’n chwarae yn mhencampwriaeth snwcer y byd yn Sheffield, ddyddiau ar ôl disgrifio canolfan y Crucible yn “dwll o le” a dweud y dylai’r bencampwriaeth symud i China.

Mae’r cyn-bencampwr o bentref Cwm wedi bod yn chwarae heddiw yn erbyn Liu Chuang o China yn ei gêm gyntaf yn y Crucible ers trydar y sylwadau.

Mae Cadeirydd Snwcer y Byd, yr hyrwyddwr chwaraeon Barry Hearn, wedi dweud gall Mark Williams wynebu gwaharddiad am ddifrïo lleoliad y bencampwriaeth mewn iaith liwgar.

“Mae’n adeg da i fod yn chwaraewr snwcer ond dyw hi ddim yn adeg da i fod yn dwpsyn,” meddai Barry Hearn.

Un Cymro’n ennill, un arall yn colli

Yn gynharach heddiw llwyddodd Ryan Day o Benybont i gyrraedd yr ail rownd trwy guro Ding Junhui o China 10-9 mewn brwydr agos iawn.

Collodd Dominic Dale o Lanfihangel-ar-Arth 10-7 yn erbyn y chwaraewr a gollodd yn y rownd derfynol y llynedd, Judd Trump o Loegr.