Ched Evans
Mae tri dyn sydd wedi eu harestio fel rhan o’r ymchwiliad i enwi’r ferch gafodd ei threisio gan Ched Evans, wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth heddiw.

Cafodd y pêl-droediwr 23 oed ei ddedfrydu i bum mlynedd o garchar am dreisio merch 19 oed mewn ystafell westy ger y Rhyl fis Mai diwethaf.

 Ddoe cafodd dau ddyn eu harestio dan Adran 5 o’r Ddeddf Diwygio Troseddau Rhyw, ac un arall ei ddal ar amheuaeth o gyfathrebu maelisus, meddai’r heddlu.

 Ond heddiw fe gadarnhaodd Heddlu’r Gogledd fod y tri wedi cael eu ryddhau ar fechnïaeth ar ôl cael eu holi yn Swyddfa’r Heddlu Sheffield, gyda gorchymyn i ddod i orsaf Heddlu’r Gogledd yn y dyfodol agos.

 Mae’r tri wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth er mwyn caniatau i’r heddlu barhau â’u hymchwiliad ac i ymgynghori gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron, meddai llefarydd ar ran Heddlu’r Gogledd.

 Mae’r Ditectif Brif Arolygydd Steve Williams, sy’n arwain yr ymchwiliad, eisoes wedi dweud fod “cynlluniau ar waith i arestio rhagor o bobol yn y diwrnodau nesaf”.