Mae cleifion sy’n aros i gael eu hasesu yn y Gogledd yn aros am 52 wythnos cyn cael cadair olwyn, o gymharu gydag 17 wythynos yn unig yn y De.
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod nhw wedi buddsoddi £2.2miliwn ychwanegol i leihau’r amser aros am gadair olwyn, yn enwedig i blant a phobol ifanc.
“Rydym yn dyblu’r nifer o staff meddygol i asesu unigolion ledloed Cymru, a sicrhau eu bod yn derbyn y gadair olwyn sy’ fwyaf addas i’w anghenion,” meddai llefarydd.
Ond yn ôl Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid mae angen cwtogi ar restrau aros am gadair olwyn yn y gogledd, a hynny ar frys.
“Mae’r ffasiwn wahaniaeth rhwng y De a’r Gogledd yn hollol annerbyniol,” meddai Darren Millar, Aelod Cynulliad Gorllewin Clwyd y Ceidwadwyr.
“Mae’r ffaith fod Llywodraeth Cymru yn gorffwys ar eu rhwyfau ar y mater hwn yn dyfnhau’r hollt rhwng y Gogledd a’r De. Nid ydynt yn malio am gleifion yn y Gogledd.
Gall oedi hir am gyfarpar cwbwl angenrheidiol gael effaith niweidiol ar ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a’u teuluoedd.
“Rhaid i’r Gweinidog roi terfyn ar y loteri post côd yma.”
Ar hyn o bryd mae gwasanaethau cadair olwyn yn destun ymchwiliad yn y Cynulliad.