Angharad Jenkins
Mae Radio Cymru’n rhy barod i geisio efelychu Radio One, yn hytrach na pharchu traddodiadau cerddorol brodorol.
Dyna neges swyddog o fudiad hybu cerddoriaeth werin, ar ddiwrnod pan mae Radio Cymru yn neilltuo diwrnod cyfan i chwarae dim byd ond recordiau gwerin.
Tra’n cydnabod bod apêl canu gwerin yn gyfyng, o gymharu gyda recordiau pop, mae Angharad Jenkins yn dweud bod galw am y math yma o beth.
“Rydw i’n siarad gyda pobol ac maen nhw’n dweud eu bod nhw’n ffed-yp, yn dweud bod Radio Cymru yn swnio fel Radio One weithiau,” meddai.
“Maen nhw’n tueddu i edrych at Lundain am syniadau.
“Ond yn yr Alban mae BBC Alba yn chwaethus a diddorol. Maen nhw’n parchu eu hetifeddiaeth gerddorol nhw.
“Mae angen i Radio Cymru edrych at Gymru.”
Bu TRAC – mudiad hyrwyddo a datblygu cerddoriaeth werin Cymru – yn cynnal protest ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd tu allan i stiwdio’r BBC.
Roedden nhw’n honni fod 13% o’r caneuon ar Radio Cymru yn rhai pop Saesneg, a dim ond 3% yn ganeuon gwerin Cymreig.
Ymateb y BBC
“Mae Radio Cymru yn rhoi llwyfan i gerddoriaeth werin drwy’r flwyddyn, ac yn cael amrywiaeth o sesiynau byw ar ein rhaglenni yn gyson, gyda sesiwn werin gan Huw M ar Ddydd Gwyl Dewi ar raglen Dafydd a Caryl, a sawl sesiwn werin ar gael ar wefan C2 gan gynnwys Tom ap Dan, Lleuwen Steffan a Trwbador. Rydym wedi comisiynu pedair cyfres bellach o Sesiwn Fach gydag Idris Morris Jones, ac mae nifer o artistiaid gwerin cyfoes wedi bod yn rhan o’r broses gyfansoddi ar gyfresi fel Yma Wyf Innau I Fod a Sesiwn Unnos.”
Galw am gyfres werin wythnosol
Tra’n falch bod diwrnod wedi ei neilltuo i ganu gwerin, mae Angharad Jenkins o fudiad TRAC eisiau mwy.
“Mae’n gam yn y cyfeiriad cywir, ond mae cymaint wedi galw mewn efo ceisiadau, mae’n amlwg fod y Cymry Cymraeg eisiau clywed y stwff,” meddai’r ferch sy’n chwarae’r ffidil yn y band gwerin Calan.
“Mi fydde hi’n neis cael cyfres wythnosol rheolaidd neu chwarae caneuon gwerin law yn llaw â cherddoriaeth arferol.
“Os nad yw Radio Cymru am chwarae’r gerddoriaeth yma, pwy sydd? Mae dyletswydd mawr ar Radio Cymru i wneud hyn.
“Mae’r Gentle Good, 9Bach a Gwilym Morus i gyd yn defnyddio’r hen alawon ar gyfer eu haddasu’n stwff cyfoes.”
Mae Bob Delyn a’r Ebillion a Chowbois Rhos Botwnnog hefyd wedi rhoi gwisg newydd i hen alawon traoddodiadol Cymreig.
Mae golwg360 yn aros am ymateb gan y BBC.
Ymateb y gwerin garwyr ar y trydar
Carwyn Tywyn: “Pam, o pam, siarad dros y caneuon? #GwenerGwerin a Caryl Parry Jones yn grêt ond angen clywed y gerddoriaeth!”
Gwenno Mererid: “Bob tiwn ar Dafydd a Caryl bore ma dw i’n mynd – w, neis #joio #GwenerGwerin”
Elliw Iwan: “Gret ydi #gwenergwerin. Swn i’n hoffi clywed tribannau Morgannwg gan yr Hwntws. Diolch.”
Mabon ap Gwynfor: “Fersiwn Ryland Teifi o Brethyn Gwlân ar ei albwm gwych Last of the Old Men os gwelwch yn dda #GwenerGwerin”