Mae proffwydi’r tywydd wedi rhybuddio gyrwyr i fod yn ofalus ar y ffyrdd heddiw, wrth i ragor o law trwm ddisgyn ar draws Cymru a Lloegr.
Roedd 40 rhybudd llifogydd mewn grym ar draws Cymru a Lloegr ddoe, gyda rhybudd am ragor o lifogydd lleol heddiw.
Yn ôl Paul Mott, un o broffwydi tywydd y MeteoGroup, mae disgwyl y bydd hi’n “ansefydlog yn bennaf, gyda glaw trwm a chawodydd ar adegau”.
Rhybuddiodd fod “eisoes tipyn o ddŵr ar wyneb yr heolydd, felly fe fydd yna dipyn o ddŵr yn tasgu.”
Mae disgwyl i’r tymheredd gyrraedd o gwmpas 14C ar draws Cymru heddiw, meddai, o gymharu â 0C mewn rhannau o’r Alban.
Bydd y cawodydd yn parhau drwy’r nos, meddai Paul Mott.
“Mae’r tywydd yn mynd i fod yn ansefydlog dros y saith diwrnod nesaf, â chawodydd cyson a glaw parhaus,” meddai.
“Mae’n ymddangos y bydd dydd Sul yn wlyb ofnadwy, â hyd at fodfedd o law yn disgyn yng Nghymru a Lloegr.”
Mae Swyddfa’r Met hefyd wedi rhybuddio am gawodydd trwm, ond wedi dweud y byddan nhw’n debygol o chwythu drwodd yn gyflym oherwydd y gwyntoedd cryf.
Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi rhybuddio yn ddiweddar y gallai’r sychder sydd wedi effeithio ar Loegr gynyddu’r risg o lifogydd sydyn, gan fod y glaw yn ei chael hi’n anoddach i dreiddio i dir sych, ac yn hytrach yn llifo i ffwrdd i greu llifogydd.
Mae’r Asiantaeth hefyd yn dweud na fydd y cawodydd yn ddigon i ddod a’r sychder i ben.
Yn ôl Richard Aylard, o Thames Water – un o’r cwmnïau sydd eisoes wedi cyflwyno gwaharddiad ar bibellau dŵr – dydi “cwpwl o wythnosau gwlyb” ddim yn ddigon i newid y ffaith fod de ddwyrain Lloegr wedi profi un o’r gaeafau sychaf erioed dros y ddeufis diwethaf.