Mae’r Gymdeithas Newid Etholiadol yn dweud fod 139,152 o drigolion Cymru wedi colli’r cyfle i bleidleisio yn yr etholiadau lleol ar 3 Mai.
Mae hynny oherwydd bod cymaint o gynghorwyr yn cael eu hethol yn ddiwrthwynebiad.
Mae dros hanner awdurdodau lleol Cymru yn dychwelyd cynghorwyr yn ddigystadleuaeth. Ym Mhowys, mi fydd dros 32,000 o bleidleiswyr heb gyfle i leisio barn yn yr etholiad.
Ar hyd a lled Cymru, mi fydd 95 o gynghorwyr yn cael eu hethol heb wrthwynebiad, gan olygu na fydd trigolion lleol yn gallu lleisio’u barn ar ddyfodol gwasanaethau allweddol a lefelau trethi cyngor.
Dywedodd y Gymdeithas Newid Etholiadol bod angen i Gymru ddilyn esiampl yr Alban a chyflwyno system o gynrychiolaeth gyfrannol.
Mae’r Alban yn defnyddio system a elwir yn Bleidlais Drosglwyddadwy Sengl (‘Single Transferable Vote’ neu STV).
O dan STV, mae pleidleiswyr yr Alban yn gallu nodi nifer o ddewisiadau ar pwy y maent eisiau i’w cynrychioli yn lleol.
Mae’r newid wedi “adfywio democratiaeth leol yr Alban ac nid yw’r un o seddi cyngor yr Alban y flwyddyn heb ei gystadlu,” meddai Newid Etholiadol Cymru.
“Mae seddi heb eu cystadlu yn symptom o ddiffyg cystadleuaeth go iawn yn ein democratiaeth leol,” meddai Stephen Brooks, Cyfarwyddwr Cymdeithas Newid Etholiadol Cymru.
“Gyda bron i 140,000 o bobl Cymru heb gyfle i bleidleisio yn yr etholiad, mae’n glir fod gennym argyfwng sy’n dwysau yn ein democratiaeth leol.
“Mi fydd 140,000 o drigolion wedi eu hamddifadu o unrhyw ddewis dros bwy sy’n penderfynu ar eu rhan ar nifer o bynciau pwysig fel treth cyngor, gwasanaethau cymdeithasol, ac ysgolion.
“Yn 2004, daeth comisiwn annibynnol, wedi’i sefydlu gan y llywodraeth Llafur/Democratiaid Rhyddfrydol ar y pryd, i’r casgliad y dylai Cymru symud i system STV fel yn yr Alban.
“Mae Llywodraeth Cymru angen adfywio ein democratiaeth leol, a mabwysiadu system o bleidleisio teg yr Alban.
“Yn yr Alban, mae pobl yn cael mwy o ddewis a mwy o lais yn y penderfyniadau sy’n eu heffeithio nhw. Mae hi ond yn iawn fod trethdalwyr cyngor yng Nghymru yn cael yr un hawl.”
Y 12 ‘diffeithiwch democrataidd’
Amcan o nifer yr etholwyr mewn wardiau heb eu cystadlu, drwy ardal awdurdod lleol
Powys 32,132
Gwynedd 22,861
Sir Benfro 20,038
Sir Y Fflint 15,062
Sir Fynwy 8,962
Conwy 7,997
Castell Nedd Port Talbot 7,793
Penybont 7,085
Wrexham 6,131
Sir Ddinbych 5,973
Ceredigion 2,990
Rhondda Cynon Taf 2,128