Mae’r achos cyntaf mewn chwe blynedd o glefyd y gwartheg lloerig wedi ei ddarganfod yn yr Unol Daleithiau.

Ddoe, daeth arbenigwyr o hyd i olion o’r clefyd Enseffalopathi Sbwngffurf Gwartheg (BSE) mewn buwch dros 30 mis oed yn yr Unol Daleithiau.

Dyma’r pedwerydd achos sydd wedi ei ddarganfod yn y wlad yn ystod y ddegawd ddiwethaf.

Ond does dim awgrym fod unrhyw un yn y wlad wedi ei heintio hyd yma.

Wrth i’r newyddion gael ei gyhoeddi ddoe ceisiodd arbenigwyr iechyd bwyd yr Unol Daleithiau dawelu pryderon fod y clefyd wedi cyrraedd cadwyn fwyd y wlad.

Mae arbenigwyr yn mynnu nad y bwriad oedd bwyta’r fuwch beth bynnag.

“Yr hyn r’yn ni’n gwybod yw bod 3,000 o Americanwyr yn marw bob blwyddyn o salwch bwyd a allai gael ei atal, a’r rheiny heb unrhyw gysylltiad o gwbl â chlefyd y gwartheg lloerig,” meddai Sarah Klein o’r Ganolfan Wyddoniaeth er Budd y Cyhoedd.

“Pethau fel E.coli a salmonela – dyna’r clefydau sydd angen ein sylw,” meddai.

Ond mae dau o werthwyr cig mawr De Korea eisoes wedi cyhoeddi nad ydyn nhw’n mynd i fod yn gwerthu cig o’r Unol Daleithiau.

Mae’r Unol Daleithiau wedi bod yn cynnal profion am y clefyd ers blynyddoedd, ers yr achosion eang ym Mhrydain yn y 90au cynnar.

Roedd y fuwch dan sylw, o Galiffornia, yn dioddef o fath arbennig o BSE sy’n tarddu o newidiadau naturiol mewn anifeiliaid – yn hytrach nag yn deillio o fwyta porthiant oedd yn cynnwys darnau o feinwe gwartheg oedd wedi eu heintio â’r clefyd, fel y digwyddodd ym Mhrydain yn y 90au cynnar.

Mae tri achos o BSE wedi eu cadarnhau yn y wlad dros y ddegawd ddiwethaf – gan gynnwys un mewn buwch yn nhalaith Washington yn 2003, yn Texas yn 2005, ac yn Alabama yn 2006.

Mae’r Adran Amaeth nawr yn rhannu eu darganfyddiadau gyda swyddogion iechyd anifeiliaid rhyngwladol yng Nghanada ac ym Mhrydain, er mwyn iddyn nhw hefyd gael asesu’r canlyniadau.