Wrth roi tystiolaeth gerbron un o bwyllgorau’r Cynulliad heddiw dywedodd pennaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru fod pêl-droed yn fwy na rygbi yng Nghymru.

Dywedodd Jonathan Ford fod mwy o glybiau, chwaraewyr  a dilynwyr gan bêl-droed yng Nghymru o’i gymharu â rygbi ond nad yw’r ddwy gamp yn gyfartal o ran denu arian a manteision eraill.

Mae Pwyllgor Cymunedau’r Cynulliad, dan gadeiryddiaeth y gefnogwraig bêl-droed ac Aelod Cynulliad Dyffryn Clwyd Ann Jones, yn edrych ar sefyllfa a dyfodol uwchgynghrair Cymru.

Dywedodd Jonathan Ford wrth y pwyllgor: “Peidiwch â ‘nghamddeall i, rwy wrth fy modd gyda rygbi, ond pan ydych chi’n edrych ar yr union ystadegau maen nhw’n wahanol iawn.

“Mae gyda ni ryw 1,500 o glybiau, mae gan rygbi 323. O ran chwaraewyr mae gyda ni deirgwaith yn fwy na rygbi.

“Hyd yn oed gyda gemau byw, gan gynnwys Caerdydd ac Abertawe wrth gwrs, mae tipyn mwy o bobl yn gwylio pêl-droed na rygbi.”

Galw am fwy o arian i bêl-droed

Dywedodd Jonathan Ford fod rygbi mewn sefyllfa well i elwa o gemau rhyngwladol.

“Baswn i wrth fy modd taswn ni’n medru chwarae Ffrainc, yr Eidal, a Lloegr pob blwyddyn mewn rhyw fath o bencampwriaeth chwe gwlad achos byddai’r arian byddwn ni’n ei greu ar gefn hynna yn rhoi pêl-droed yng Nghymru mewn sefyllfa wahanol iawn.

“Byddwn i wrth fy modd tasai’r tîm pêl-droed cenedlaethol yn gallu jyst troi lan i Gwpan y Byd pob pedair blynedd, ond nid fel yna mae. Mae’n rhaid i ni gystadlu gyda 209 o wledydd am 32 lle.”

Dywedodd Jonathan Ford nad yw’r arian mae pêl-droed yng Nghymru yn ei gael yn gymesur gyda’r hyn mae rygbi yn ei dderbyn. Galwodd ar i Lywodraeth Cymru roi mwy o arian i bêl-droed gan ddweud y byddai’n “haneru” cyllideb iechyd y llywodraeth trwy wella lefelau ffitrwydd.