Mae rhanbarth rygbi’r Sgarlets wedi cyhoeddi eu bod nhw am agor busnes yng nghanol Llanelli, gan fynd yn groes i duedd sydd wedi gweld busnesau’n gadael y dref.

Mae pryder wedi bod ers blynyddoedd fod canol tref Llanelli yn marw wrth i fusnesau mawrion megis Marks & Spencer a WHSmith symud allan i ddatblygiadau ar gwr y dre.

Yn 2008 symudodd y Sgarlets o’u cartref ysbrydol ar Barc y Strade, nepell o ganol Llanelli, i ddatblygiad ger Trostre ar gwr y dre, ond heddiw mae’r rhanbarth yn cyhoeddi eu bod nhw am agor siop nwyddau a chaffi yng nghanol Llanelli er mwyn bod “wrth galon y gymuned.”

Mae’r Sgarlets wedi cymryd les o 15 mlynedd ar siop chwaraeon 3,200 troedfedd sgwâr a chaffi/bar yn natblygiad Porth y Dwyrain yn Llanelli, ac mae’n debyg mai hwn fydd y datblygiad cyntaf o’i fath gan glwb rygbi yn y Deyrnas Unedig. Bydd y caffi yn cael ei redeg ar y cyd gyda chwmni manwerthu bwyd Castell Howell, sy’n un o noddwyr y rhanbarth.

‘Ymestyn ffiniau’

Mae Porth y Dwyrain yn ddatblygiad a fydd yn cynnwys sinema chwe-sgrîn, theatr 550 sedd, gwesty, bwytai, safleoedd swyddfa a gorsaf fysiau newydd.

Dywedodd Prif Weithredwr y Sgarlets Mark Davies ei fod yn bwysig fod y Sgarlets yn edrych ar fentrau newydd ac yn “ymestyn ffiniau i ddangos beth gall busnes rygbi ei gyflawni.”

Croesawodd Llywydd siambr fasnach Llanelli y newyddion.

“Mae hyn yn newydd gwych i Borth y Dwyrain a dyfodol canol tref Llanelli”, meddai Andrew Stephens

“Mae’n dangos hyder yn nyfodol y dref ac yn rhywbeth gall ein tref rygbi ni ymfalchïo ynddo.”