Fernando Torres
Mae Fernando Torres wedi mynegi ei syndod ar ôl sgorio’r gôl a sicrhaodd le Chelsea yn ffeinal Cynghrair y Pencampwyr.

Er i Chelsea golli John Terry yn yr hanner cyntaf ar ôl i’r capten dderbyn carden goch llwyddodd Chelsea i ddal eu tir, a’r Sbaenwr Fernando Torres a sgoriodd y gôl a dorrodd calonnau’r Catalanwyr.

“Doeddwn i ddim yn disgwyl unrhyw gyfleon,” meddai Fernando Torres, a ddaeth ymlaen fel eilydd.

“Ro’n i’n chwarae’n fwy fel amddiffynnwr nag ymosodwr,” meddai.

Mae gan y Sbaenwr record dda yn erbyn Barcelona gan iddo sgorio 7 gôl mewn 10 ymddangosiad yn eu herbyn nhw dros Atletico Madrid. Ond tan neithiwr nid oedd gyrfa Torres yn Chelsea wedi bod yn fawr o lwyddiant – dim ond 8 gôl mewn dwy flynedd er gwaethaf pris o £50 miliwn.

Ond mae ei gôl wedi llwyddo i adennill ychydig o’r arian wrth i Chelsea gyrraedd ffeinal Cynghrair y Pencampwyr, i chwarae yn erbyn buddugwyr y gêm heno rhwng Real Madrid a Bayern München. Mae Bayern yn arwain 2-1 yn dilyn y cymal cyntaf.