Stadiwm y Mileniwm
Bydd un o dimau pêl-droed gorau’r byd yn chwarae yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd dros yr haf eleni yn nhwrnament pêl-droed Gemau Olympaidd 2012.

Bydd gêm bêl-droed gyntaf y twrnament yn cael ei gynnal ar 25 Gorffennaf, pan fydd tîm merched Prydain yn chwarae yn erbyn Seland Newydd – cyn i dîm dynion Brasil gamu i’r cae ddiwrnod yn ddiweddarach i herio’r Aifft.

Bydd tîm merched Prydain wedyn yn wynebu Cameroon ar 28 Gorffennaf yng Nghaerdydd, cyn herio Brasil ar ddiwedd eu grŵp.

Bydd tîm dynion Prydain yn camu i’r stadiwm yng Nghaerdydd ar 1 Awst, ar gyfer gêm olaf eu grŵp yn erbyn Uruguay. Bydd dynion Prydain eisoes wedi herio Undeb yr Emeradau Arabaidd a Sengal cyn cyrraedd Caerdydd.

Bydd 11 gêm o bêl-droed yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd i gyd rhwng 25 Gorffennaf a 10 Awst, gan gynnwys gêm gyn-derfynnol y dynion, a’r gêm sy’n dewis enillyd y fedal efydd.

Mae Rheolwr Cyffredinol Stadiwm y Mileniwm, Gerry Toms, yn dweud fod y dewisiadau wedi bod yn newyddion da i Gaerdydd.

“R’yn ni wedi sicrhau rhai o gemau cyffrous y twrnament i Gaerdydd, gyda’r dynion a’r menywod,” meddai.

“Bydd y cyfle i wylio timoedd fel Brasil yn chwarae ar garreg ein drws yn dipyn o anrhydedd.”

Dywedodd Gerry Toms ei fod yn gobeithio y byddai Cymru ben-baladr, nid dim ond cefnogwyr pêl-droed, yn cymryd mantais o’r cyfle.

“Mae sicrhau twrnament pêl-droed Gemau Olympaidd 2012 i Gaerdydd yn lwyddiant enfawr i Gymru, ac mae’n gyfle unwaith mewn oes i gymaint o gefnogwyr chwaraeon i fod yn rhan o’r Gemau,” meddai.

‘Codi proffil pêl-droed merched’

Mae hyfforddwraig tîm menywod Prydain, Hope Powell, hefyd wedi annog y cyhoedd i ddod i gefnogi ei thîm yng ngêm agoriadol y Gemau Olympaidd yn Stadiwm y Mileniwm.

“Dyma ddigwyddiad agoriadol y Gemau ac r’yn ni’n gobeithio y bydd ’na gefnogaeth mawr,” meddai.

“Mae’n gyfle gwych i godi proffil Pêl-droed Menywod, ac i gael platfform ar draws y wlad,” meddai.