Ched Evans
Bydd peldroediwr Cymru a Sheffield United, Ched Evans, yn apelio yn erbyn ei ddedfryd am dreisio dynes 19 oed mewn gwesty ger Y Rhyl, yn ôl ei gyfreithiwr.

Mewn datganiad ar wefan ei glwb, dywedodd cwmni cyfreithwyr Brabners Chaffe Street y byddai’r ymosodwr 23 oed, sydd wedi ei garcharu am bum mlynedd am yr ymosodiad rhyw, yn “mynnu ei fod yn ddieuog”, ac fe fydd yn apelio yn erbyn y dyfarniad.

“Mae teulu Mr Evans yn mynnu ei ddieuogrwydd ar y mater hwn, ac o’r herwydd, rydyn ni’n cadarnhau y bydd Mr Evans yn apelio yn erbyn y penderfyniad,” meddai’r cwmni mewn datganiad ar wefan Sheffield United.

Dedfryd

Cafodd Ched Evans ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Gwener ddiwethaf, ar ôl ei gael yn euog o dreisio’r ddynes mewn gwesty ger y Rhyl fis Mai diwethaf.

Cyfaddefodd ei fod wedi cael rhyw gyda hi, ond dywedodd y ddynes wrth y rheithgor nad oedd ganddi unrhyw gof o’r digwyddiad – ac fe fynnodd yr erlyniad ei bod hi’n rhy feddw i roi ei chaniatâd i gael rhyw.

Cafwyd amddiffynnwr Port Vale, Clayton McDonald, 23, yn ddieuog o’r un cyhuddiad, er iddo yntau hefyd gyfaddef iddo gael rhyw gyda’r ferch.

Atal peldroediwr am sylwadau Twitter

Yn y cyfamser, mae amddiffynnwr Sheffield United, Connor Brown, wedi cael ei atal o’r clwb dros sylwadau a wnaeth yn ymwneud â’r achos ar ei gyfri Twitter.

Yn dilyn dedfrydu Ched Evans, mae na honiadau fod y peldroediwr, sy’n chwarae i dîm wrth-gefn Sheffield United, wedi gwneud sylwadau ynglŷn â’r achos, yn cefnogi Ched Evans ac yn sarhau’r ferch a wnaeth y cyhuddiadau.

Heddlu’n cynnal ymchwiliad

Mae Heddlu Gogledd Cymru hefyd wedi cadarnhau eu bod bellach yn cynnal ymchwiliad, wedi i’r ferch anhysbys yn yr achos gael ei henwi a’i beirniadu ar safleoedd gwe fel Twitter.

Mae Heddlu’r Gogledd yn dweud nad ydyn nhw wedi arestio unrhyw un am enwi’r ddynes ar y we hyd yn hyn.

Roedd adroddiadau yn gynharach bod yr heddlu wedi arestio rhywrai yn sgil datgelu enw’r ddynes ar Twitter, ond mae llefarydd ar ran yr heddlu bellach wedi dweud nad oes neb wedi eu harestio.

Mewn datganiad gan Heddlu’r Gogledd, dywedodd llefarydd eu bod nhw’n “cadarnhau y bydd rhai yn cael eu harestio fel rhan o’r ymchwiliad, yn dilyn sylwadau a wnaed ar wefannau cymdeithasol yn adnabod y ddioddefwraig yn achos treisio Ched Evans.

“Mae’r heddlu yn atgoffa pobol fod y gyfraith yn caniatau i ddioddefwyr trais ac ymosodiadau rhyw difrifol eraill aros yn anhysbys am oes, ac os oes unrhyw un yn cyhoeddi enw’r dioddefwr yna fe fyddan nhw’n destun ymchwiliad a chyhuddiad troseddol posib.

“Rydyn ni’n dymuno tawelu meddwl dioddefwyr ein bod ni’n dal yn benderfynol o’u cefnogi,” meddai.