Casnewydd 0–1 Wrecsam

Yr ymwelwyr o’r gogledd a oedd yn fuddugol yng ngêm ddarbi Gymreig Uwch Gynghrair y Blue Square ar Barc Sbyty nos Fawrth. Sgoriodd Adrian Cieslewicz unig gôl y gêm i Wrecsam yn yr hanner cyntaf ac er i Gasnewydd wella wedi’r egwyl daliodd y Dreigiau eu gafael ar y tri phwynt.

Gallai hon fod wedi bod yn gêm dipyn pwysicach pe bai Wrecsam dal i frwydro am y gynghrair a Chasnewydd yn parhau i ymladd am eu dyfodol yn y Gyngres. Ond gan fod Casnewydd bellach yn ddiogel a thân y Dreigiau wedi diffodd dros yr wythnosau diwethaf doedd dim llawer mwy na ballchder yn y fantol rhwng y ddau dîm o Gymru.

Wedi dweud hynny, fe fydd y cefnogwyr cartref yn siomedig bod eu tîm wedi colli gêm olaf y tymor ar Barc Sbyty, yn enwedig gan fod posibilrwydd y byddant yn symud i chwarae ar Rodney Parade y tymor nesaf.

Deg munud oedd ar y cloc pan ddaeth Danny Wright o hyd i Cieslewicz yn y cwrt cosbi ac anelodd yntau ergyd gywir heibio Karl Darlow yn y gôl i Gasnewydd.

Bu bron i Sam Foley unioni i’r tîm cartref wedi hanner awr ond llwyddodd Chris Maxwell i arbed ei ergyd.

Foley gafodd un o gyfleoedd gorau Casnewydd wedi’r egwyl hefyd ond cafodd Maxwell y gorau arno eto a llwyddodd gôl geidwad y Dreigiau i arbed ymdrech Elliott Buchanan hefyd wrth iddi orffen yn 1-0 i’r gogleddwyr.

Mae’r canlyniad yn cadw Wrecsam yn ail a Chasnewydd yn ail ar bymtheg yn y tabl.