Mae’r pum Cymro a aeth i bencampwriaeth snwcer y byd yn Sheffield yn dal yn y ras.

Ddoe curodd Jamie Jones o Gastell Nedd y cyn-enillydd Shaun Murphy 10-8, tra cafodd Matthew Stevens o Gaerfyrddin frwydr haws wrth guro Marco Fu o 10-3.

Y prynhawn yma mae Dominic Dale o Lanfihangel-ar-Arth yn brwydro yn erbyn Judd Trump, gyda’r Sais ar y blaen 5-4 er gwaethaf salwch stumog.

Mae Ryan Day ar y blaen 5-4 yn erbyn Ding Junhui a byddan nhw’n ail-ddechrau chwarae ddydd Mercher.

Bydd Mark Williams  hefyd yn chwarae ddydd Mercher yn erbyn Liu Chiang. Wythnos ddiwethaf dywedodd y Cymro o Gwm ar ei gyfrif Twitter fod y Crucible yn “dwll o le” ac y dylid symud y bencampwriaeth i China.