Ched Evans
Mae clwb pêl-droed Sheffield United heddiw wedi gwahardd chwaraewr dros sylwadau ar ei gyfrif Twitter am achos Ched Evans.

Mae Connor Brown, chwaraewr yn ail dîm Sheffield United, wedi ei wahardd tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal gan y clwb i sylwadau a wnaed ar gyfrif Twitter y chwaraewr.

Roedd y sylwadau honedig yn sarhau’r ferch wnaeth ddwyn achos yn erbyn Ched Evans, sy’n enedigol o Lanelwy ac yn brif sgoriwr Sheffield United eleni.

Ddydd Gwener cafodd Ched Evans ei ddedfrydu i bum mlynedd o garchar am dreisio merch 19 oed yn y Rhyl a oedd yn “rhy feddw i gydsynio i gael rhyw.”

Dywedodd Sheffield United eu bod nhw’n gobeithio cwblhau ymchwiliad Connor Brown yn “fuan.”

Yn dilyn dedfrydu Ched Evans mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cynghori pobol i “ystyried goblygiadau’r hyn maen nhw’n ei ysgrifennu” ar wefannau cymdeithasol ac i “werthfawrogi y gallen nhw fod yn esgusodi’r ymddygiad ac yn ychwanegu at drawma’r ferch.”