Mae Cyngor Gwynedd wedi rhybuddio pobol i beidio â phrynu pysgod gan werthwyr sy’n mynd o ddrws i ddrws heddiw.

Mae’r Cyngor yn dweud y dylai pobol wrthod prynu eu pysgod gan y gwerthwyr drws hyn rhag ofn nad ydyn nhw’n dilyn rheolau busnes priodol.

Mae Gwasanaethau Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Gwynedd yn dweud wrth bobol am fod yn “wyliadwrus” o’r gwerthwyr pysgod sy’n mynd “o ddrws i ddrws yn ceisio gwerthu gwerth cannoedd o bunnoedd o bysgod ffres.”

Daw’r rhybudd yn sgil adroddiadau fod nifer o fasnachwyr nawr yn crwydro strydoedd yn gwerthu eu pysgod, gan ofyn i breswylwyr, “gan gynnwys pobol hŷn”, os fydden nhw’n hoffi prynu’r pysgod.

Pryder

Yn ôl Andrew Parry, Swyddog Gwarchod y Cyhoedd gyda Chyngor Gwynedd, maen nhw’n “bryderus iawn am y sefyllfa.”

Dywedodd fod y Cyngor yn poeni’n arbennig gan “nad oes gwybodaeth i gadarnhau os ydi’r busnes wedi cael ei gofrestru fel busnes bwyd yn gyfreithiol yn unol â’r gofynion, ac os ydi’r gwerthwyr yn masnachu o fewn rheoliadau diogelwch a hylendid bwyd perthnasol.”

Yn ôl Andrew Parry, pan fod cwsmeriaid yn cael eu pysgod wrth y drws does “dim ffordd o wybod sut mae’r pysgod wedi cael eu storio ac os ydynt yn ddiogel i’w bwyta.

“Yn aml mae gwerthwyr o’r fath yn defnyddio cerbydau heb oergell, a gall materion godi yn ymwneud a labelu ac ansawdd y pysgod.

“Byddem yn nodi mai’r lle gorau i brynu pysgod ydi gan werthwr pysgod ag enw da mewn siop neu stondin sefydledig.”