Rhodri Glyn Thomas
Mae arweinydd Plaid Cymru wedi herio’r Blaid Lafur heddiw i arbed cynghorau lleol rhag toriadau Llywodraeth San Steffan.
Mae Plaid Cymru yn dweud y dylai Llafur Cymru gamu mewn i ganslo toriadau’r Torïaid i fudd-daliadau treth cyngor.
Maen nhw’n honni y byddai methiant Llafur i weithredu yn arwain at bron i 300,000 o aelwydydd tlotaf a mwyaf bregus Cymru, gan gynnwys llawer o bensiynwyr, yn gorfod talu mwy o dreth cyngor.
Bydd budd-dal treth y cyngor yn cael ei ddatganoli i Gymru yn Ebrill 2013, a hynny gyda thoriad o 10%.
Mae’r budd-dal ar hyn o bryd yn cael ei dalu i ryw 25% o gartrefi Cymru.
‘Cost ychwanegol’
Mewn ymateb i’r ymgynghoriad, dywedodd Llywodraeth Lafur Cymru yn y Cynulliad na fyddai’n mynd i’r afael â’r diffyg, sy’n golygu, medd Plaid Cymru, y caiff y toriadau eu pasio ymlaen i gynghorau lleol.
Mae Plaid Cymru yn amcangyfrif y bydd hyn yn gost ychwanegol i Gymru o £23.4 miliwn.
Mae Rhodri Glyn Thomas, llefarydd Llywodraeth Leol Plaid Cymru, yn dweud fod rhoi’r baich ychwanegol hyn ar gynghorau lleol yn peryglu dyfodol gwasanaethau lleol, ac yn peryglu pobol fregus a phensiynwyr.
Mae e’n dweud y dylai Llywodraeth Cymru gymryd yr un trywydd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth yr Alban yr wythnos diwethaf, ac ysgwyddo’r baich yn ganolog.
“Cyn yr etholiad diwethaf, addawodd Llafur yng Nghymru amddiffyn pobol Cymru rhag toriadau’r Torïaid, ond y gwir yw eu bod yn eistedd yn ôl ac yn gwneud dim i’w gwrthwynebu, gan adael rhai o bobol dlotaf cymdeithas i dalu’r gost,” meddai.
“Mae’n siomedig fod y gyllideb wedi ei thorri cyn ei datganoli i Gymru. Ond ar Lywodraeth Cymru bellach y mae’r baich o ddarganfod trefniadau cynaliadwy i amddiffyn y mwyaf bregus yn ein cymdeithas.”
‘Llenwi’r bwlch ariannol’
Yn ôl Rhodri Glyn Thomas, mae’r baich ychwanegol yn golygu y bydd yn rhaid i gynghorau lleol dorri’n ôl mewn meysydd pwysig er mwyn llenwi’r bwlch ariannol.
“Mae Plaid Cymru yn pryderu’n fawr fod Llafur, trwy eistedd yn ôl a phasio’r toriadau hyn ymlaen at gynghorau lleol, yn peryglu gwasanaethau lleol a phobl fregus.
“Bydd cynghorau yn wynebu dewis amhosib – torri gwasanaethau lleol neu orfodi’r aelwydydd tlotaf i dalu mwy o dreth cyngor.”
Mae Rhodri Glyn Thomas yn dweud y dylai Llafur fod yn neilltuo “£80 miliwn o arian dilynol Barnett” flwyddyn nesaf, er mwyn “dileu effaith y toriadau.”