Gareth Williams mewn fideo teledu cylch cyfyng
Mae fideo teledu cylch cyfyng o’r ysbïwr Gareth Williams yn ystod y dyddiau cyn iddo farw yn ei ddangos yn edrych yn hapus, ar ei ben ei hun, clywodd cwest heddiw.
Dywedodd y Ditectif Uwch Arolygydd Jackie Sebire nad oedd Gareth Williams yn cael ei ddilyn yn y fideo ohono yn Llundain rhwng 11 a 15 o Awst.
Cafwyd hyd i gorff Gareth Williams o Ynys Môn, wedi ei gloi mewn bag yn y bath yn ei fflat yn Pimlico, Llundain.
Mae disgwyl i’r cwest geisio darganfod a oedd unrhyw un arall yn gysylltiedig â’i farwolaeth.
Mae’r fideo CCTV yn dangos Gareth Williams yn siopa yn y West End yn y dyddiau cyn iddo farw, ac am y tro olaf ar 15 Awst am 3.05pm wrth iddo gyrraedd Stryd Alderney lle’r oedd yn byw.
Roedd disgwyl iddo ddychwelyd i’r gwaith y diwrnod wedyn ar 16 Awst ar ôl iddo gymryd gwyliau, ond ni chafodd ei absenoldeb ei nodi tan 23 Awst pan ddaethpwyd o hyd i’w gorff, meddai DCI Sebire wrth Lys y Crwner yn San Steffan.
Fideo o’r fflat
Cafodd fideo’r heddlu o’r fflat ei ddangos i’r cwest heddiw. Roedd yr heddlu wedi dod o hyd i ddillad merched ac esgidiau gwerth oddeutu £20,000 yn y fflat, ynghyd â wig, minlliw a cholur, ac erthygl o bapur yr Observer yn nodi’r pum peth mae pobl yn edifar cyn marw.
Mae’r fideo o’r ystafell ymolchi yn dangos bag mawr coch sy’n llenwi’r bath, ac wedi ei gloi gyda chlo clap.
Yn gynharach, roedd rhieni Gareth Williams wedi cerdded allan o’r cwest.