Portmeirion
Bydd rhai o fawrion cerddoriaeth y degawdau diwethaf yn dod i Bortmeirion ym mis Medi, ar ôl i Ŵyl Rhif 6 gyhoeddi’r bandiau heddiw.

New Order, Primal Scream a Spiritualized fydd y prif fandiau fydd yn canu yng Ngŵyl Rhif 6 dros benwythnos 14-16 Medi. Dywed y trefnwyr bod bwriad hefyd i gael bandiau Cymraeg a chôr meibion, ynghyd â pherfformwyr llafar, ffilmiau, a theatr ar amryw o lwyfannau o amgylch pentref Portmeirion.

Dywed Jo Crago o gwmni Ear to the Ground wrth Golwg360 eu bod nhw wedi dewis Portmeirion am ei fod yn “lleoliad godidog a bod hanes i’r lle fel lleoliad cyfres The Prisoner.”

Tocynnau lleol i bobl leol

Mae’r trefnwyr yn rhyddhau 250 o docynnau gostyngedig ar gyfer trigolion ardal cod post LL48, sef Minffordd, Penrhyndeudraeth, Llanfrothen a Chroesor, ac ardal LL47, sef Talsarnau, Cilfor a Llandecwyn. Bydd y rhain yn costio £99 am docyn penwythnos ac ar gael o dollborth Portmeirion o 15 Mai ymlaen – rhaid mynd â phrawf o’ch cyfeiriad.