Mae RSPCA Cymru wedi rhybuddio ei bod yn wynebu argyfwng oherwydd cynnydd mawr yn nifer yr achosion o gam-drin anifeiliaid.

Roedd nifer y dedfrydau am gam-drin ac esgeuluso anifeiliaid yng Nghymru i fyny 39% y llynedd – ond mae’r baich o ymchwilio ac erlyn bob achos yn gwthio adnoddau’r elusen i’r eithaf, medd yr elusen.

Ond yn ôl prif weithredwr y RSPCA, Gavin Grant, mae’n addo parhau i erlid ac erlyn pob un sy’n cam-drin anifeiliaid er gwaetha’r wasgfa ar adnoddau.

Mae e hefyd wedi galw ar yr heddlu, y llysoedd, y cynghorau, a’r “rheiny sy’n caru anifeiliaid” i gefnogi ei safiad digyfaddawd tuag at greulondeb yn erbyn anifeiliaid.

Creulondeb

Mae’r ffigyrau ar gyfer 2011 yn dangos cynnydd o 39% yn  nifer y dedfrydau a sicrhawyd gan y RSPCA yn y llysoedd y llynedd.

Mae’r cynnydd hwn yn golygu bod y ffigwr ar gyfer yr holl ddedfrydau yn ymwneud ag anifeiliaid yng Nghymru yn 2011 wedi codi i 239 o achosion unigol – sydd gyfystyr â bron i bum bob wythnos.

Roedd cynnydd o 31% yn nifer y dedfrydau am greulondeb ac esgeulustod anifeiliaid yn 2011 – neu 81 o achosion unigol.

“Mae’r RSPCA yn wynebu argyfwng sy’n ein gwthio ni i’r eithaf,” meddai Gavin Grant heddiw.

“Ond fyddwn ni’n goddef dim ar y rheiny sy’n greulon i anifeiliaid. Bydd y rheiny sy’n achosi poen i anifeiliaid am elw neu bleser yn cael eu herlid a’u herlyn,” addawodd.

Mae’r elusen wedi cyhoeddi’r ffigyrau diweddaraf wrth iddyn nhw ddechrau ar ymgyrch codi arian enfawr heddiw, gyda dechrau ar Wythnos y RSPCA 2012.

Mae’r ffigyrau’n cynnwys y ddedfryd gyntaf yng Nghymru yn erbyn defnyddio coler sioc drydanol ar gi.

Mae’r ffigyrau hefyd yn cynnwys achos yr hen dafarn yng Nghilfach Goch, yng Nghwm Rhondda, oedd yn gartref i 11 ci, naw gŵydd, un ceffyl, a dwy afr.