Mae Cymdeithas Cenedlaethol Prif Athrawon, yr NAHT, wedi rhoi croeso goflaus i Fesur Ysgolion Leighton Andrews y bore ’ma.

Mae’r Gymdeithas yn dweud ei fod yn ddarn sylweddol o ddeddfwriaeth, a bod rhan helaeth o’r cymalau yn welliant mawr ar y sefyllfa bresennol.

Yn ôl Cyfarwyddwr NAHT Cymru, Anna Brychan, dylid rhoi croeso arbennig i’r mesurau i “dynnu’r baich biwrocrataidd gormodol oddi ar ysgolion.”

Wrth gyflwyno’r Mesur Ysgolion ddoe, dywedodd Gweinidog Addysg Cymru, Leighton Andrews, y byddai’n codi safonau mewn ysgolion ac yn lleihau dryswch yn y system addysg yng Nghymru.

“Mae lleihau biwrocratiaeth a gwella safonau mewn ysgolion yn hanfodol wrth godi safonau addysg yng Nghymru,” meddai Leighton Andrews ddoe.

Ond mae Plaid Cymru wedi herio Leighton Andrews i fanylu sut yn union y bydd yn mynd i’r afael â biwrocratiaeth.

“Dwi’n disgwyl i’r Gweinidog fanylu sut y bydd y ddeddf yma yn gostwng bwirocratiaeth ac yn rhyddhau adnoddau er mwyn canolbwyntio ar y prif dasgau o wella sgiliau addysg pobol, a’u gallu i gymryd rhan mewn dysgu gydol oes,” meddai llefarydd addysg Plaid, Simon Thomas.

‘Cadw llygad’

Mae’r NAHT yn rhybuddio y bydd yn rhaid bod yn wyliadwrus o’r modd y mae rhai cymalau yn cael eu gweithredu.

“Bydd rhaid i ni gadw llygad agos ar y cymalau sy’n ymwneud ag ymyrraeth awdurdodau addysg leol mewn ysgolion,” meddai Anna Brychan.

“Byddwn ni’n chwilio am ymyrraeth wybodus a chefnogol, sy’n ffordd i godi safonau.”

Ddoe, dywedodd Leighton Andrews y byddai’r mesur newydd yn “cefnogi’r awdurdodau lleol drwy sicrhau eu bod yn deall y pwerau sydd ganddyn nhw i ymyrryd pan fo ysgolion yn tanberfformio.”

Dywedodd hefyd y byddai’r mesur yn symleiddio’r broses o gau ysgolion sydd ag ychydig o ddisgyblion neu ddim disgyblion ac yn “lleihau’r ansicrwydd sy’n wynebu rhieni a disgyblion ar hyn o bryd.”

Ond dywedodd Cyfarwyddwr yr NAHT heddiw fod pryder yn parhau ynglŷn â gallu’r awdurdodau addysg leol i gymryd camau fel hyn.

“Wrth i weithredu-consortiwm ddatblygu, mae pryder mawr yn parhau ynglŷn â’r gallu i wneud hyn ym mhob un o’n hawdurdodau lleol,” meddai.

Bandio ysgolion

Mae Plaid Cymru hefyd wedi rhybuddio rhag gor-ddibyniaeth ar fandiau ysgolion wrth ddynodi pa ysgolion sydd angen yr help fwyaf.

“Fe fyddwn ni’n pryderu os yw’r ddeddf yn dibynnu’n llwyr, neu’n rhy drwm, ar fandio ysgolion fel arwydd o ysgol sy’n ‘methu’ ac sy’n haeddu ymyrraeth uniongyrchol y Gweinidog,” meddai Simon Thomas.

“Mae Plaid Cymru yn dal i wrthwynebu cyflwyno bandio i ysgolion cynradd yn y dyfodol – r’yn ni’n credu ei fod yn niweidiol ac yn annibynadwy.”