Ched Evans
Mae’r heddlu yn ymchwilio ar ôl adroddiadau fod y ddynes a gafodd ei threisio gan y pêl-droediwr Ched Evans wedi ei henwi a’i sarhau ar wefan rwydweithio cymdeithasol.

Daw’r ymchwiliad wedi cwyn gan elusen sy’n ymdrin â phobol sydd wedi eu treisio, a ddywedodd fod y sylwadau honedig ar Twitter yn “destun pryder mawr”.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru eu bod nhw’n “ymwybodol o sylwadau ar wefannau rhwydweithio cymdeithasol ac yn casglu’r holl wybodaeth berthnasol”.

Cwestiynau difrifol’

Mae gan ddioddefwyr sydd wedi eu treisio yr hawl i aros yn ddienw am byth.

Ond mae elusennau yn pryderu na fydd rheolau cyfreithiol o’r fath yn gallu amddiffyn dioddefwyr yn oes gwefannau fel Twitter.

Dywedodd Holly Dustin, cyfarwyddwr Argyfwng Treisio Cymru a Lloegr, bod y newyddion “yn codi cwestiynau difrifol am allui’r system gyfiawnder i ymdopi â throseddau sy’n digwydd ar-lein”.

“Rydyn ni’n galw am adolygiad brys i’r gyfraith ac arferion cyfreithiol.”

Yr achos llys

Penderfynodd rheithgor yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Gwener fod Ched Evans, sy’n 23 oed, yn euog o dreisio dynes “oedd yn rhy feddw i roi ei chaniatâd” i gael rhyw.

Cafwyd ei gyd-ddiffynnydd, y pêl-droediwr Clayton McDonald, yn ddieuog o’r un cyhuddiad.

Roedd y ddau ddyn wedi cyfaddef iddyn nhw gael rhyw â’r ferch, nad oes modd ei henwi am resymau cyfreithiol, ond dywedodd yr erlyniad ei bod hi’n rhy feddw i gytuno i gael rhyw.

Clywodd Llys y Goron Caernarfon bod Clayton McDonald wedi cwrdd â’r ferch yn ystod oriau mân y bore ar 30 Mai.

Fe aethon nhw yn ôl i’r Premier Inn ger Rhyl a chael rhyw. Cyrhaeddodd Ched Evans ac fe gafodd ef hefyd ryw â’r ferch.

Clywodd y rheithgor bod dyn arall Jack Higgins, a brawd Ched Evans, Ryan Roberts, wedi gwylio drwy’r ffenestr.

Roedd recordiad fideo ar ffôn Jack Higgins yn dangos ei fod wedi ffilmio neu wedi ceisio ffilmio beth ddigwyddodd, clywodd y llys.

Honnodd Clayton McDonald bod Ched Evans wedi gofyn a allai gymryd rhan, tra bod Ched Evans yn dweud bod Clayton McDonald wedi gofyn iddo a oedd eisiau cael rhyw â’r ferch.

Wrth roi tystiolaeth dywedodd Clayton McDonald bod y ddynes yn “gwneud synau oedd yn awgrymu ei bod hi’n mwynhau ei hun”.

Dywedodd Ched Evans wrth y rheithgor ei bod hi wedi rhoi ei chaniatâd a’i bod hi “mewn rheolaeth”.

Wrth ddedfrydu Ched Evans, dywedodd y Barnwr Merfyn Hughes QC: “Roedd yr achwynydd yn 19 oed ac yn feddw dros ben.

“Mae’r delweddau camerâu cylch cyfyng yn dangos, yn fy marn i, pa mor feddw oedd hi wrth iddi daro i mewn i’ch cyfaill.

“Mae’r rheithgor wedi penderfynu nad oedd hi mewn cyflwr i gael rhyw.

“Pan gyrhaeddoch chi’r gwesty mae’n rhaid eich bod chi wedi sylweddoli hynny.

“Rydych chi wedi difetha gyrfa lwyddiannus.”

Dywedodd wrth Ched Evans y byddai yn rhaid iddo dreulio o leiaf hanner ei ddedfryd yn y carchar cyn cael ei ryddhau ar barôl.

Dywedodd David Fish QC, wrth ddadlau o blaid lleddfu dedfryd Ched Evans, ei fod yn ddiwrnod “trist iawn” i’r pêl-droediwr.

“Mae’n 23 oed ac wedi ymroi ei fywyd cyfan i’w yrfa ers ei fod yn ei arddegau,” meddai.

“Mae’n yrfa honno bellach wedi ei difetha.”