Mae dynes o Wrecsam sydd heb unrhyw obaith o ennill Marathon Llundain yn gobeithio y bydd hi’n gadael ei hol ar y llyfrau hanes beth bynnag.

Mae Sasha Kenney, 34, yn gobeithio codi dros £2,000 i’r NSPCC drwy gwblhau’r marathon wrth sicrhau bod cylchyn hwla yn troelli o’i hamgylch drwy gydol y ras 26.2 milltir.

Chwe awr yw’r record am wneud hynny ar hyn o bryd.

“Roedd rhywun wedi dweud ei fod yn amhosib,” meddai Sasha Kenney, sy’n hyfforddwr ffitrwydd yn Wrecsam.

“Rydw i’n gweld llawer iawn o hynny yn fy swydd i ac rydw i eisiau profi eu bod nhw’n anghywir.”

Mae’r trefnwyr yn rhagweld y bydd tua 36,500 o ymgeiswyr yn cystadlu yn y marathon a fydd yn dechrau yn Greenwich bore yfory.

Mae disgwyl tymheredd o 12C, ag ysbeidiau heulog i ddechrau ond glaw yn hwyrach ymlaen.

Ymysg yr enwogion sy’n cystadlu eleni mae Canghellor yr wrthblaid, Ed Balls, a’r cogydd Gordon Ramsay.

Roedd y cwffiwr cawell Alex Reid yn bwriadu cymryd rhan, ond ymddangosodd neges ar ei wefan heddiw yn dweud ei fod wedi disgyn i lawr y grisiau.