Ched Evans
Mae ymosodwr Cymru a Sheffield United, Ched Evans, yn ystyried a fydd yn apelio ar ôl cael ei garcharu am bum mlynedd am dreisio merch.

Penderfynodd rheithgor yn Llys y Goron Caernarfon ddoe fod y dyn 23 oed yn euog o dreisio dynnes “oedd yn rhy feddw i roi ei chaniatâd” i gael rhyw.

Cafwyd ei gyd-ddiffynnydd, y pêl-droediwr Clayton McDonald, yn ddieuog o’r un cyhuddiad.

Roedd y ddau ddyn wedi cyfaddef iddyn nhw gael rhyw â’r ferch, nad oes modd ei henwi am resymau cyfreithiol, ond dywedodd yr erlyniad ei bod hi’n rhy feddw i gytuno i gael rhyw.

Wrth roi tystiolaeth, dywedodd y ferch nad oedd ganddi unrhyw gof o beth ddigwyddodd.

Dywedodd cyfreithwyr Ched Evans ei fod “wedi ei synnu ac yn hynod o siomedig”.

“Mae Ched Evans yn parhau i haeru ei fod yn ddieuog ac yn derbyn cyngor ynglŷn ag apelio yn erbyn y penderfyniad,” medden nhw.

Dywedodd Cymdeithas Pêl-droed Cymru eu bod nhw’n “cydnabod difrifoldeb y sefyllfa”.

Y cefndir

Clywodd Llys y Goron Caernarfon bod Clayton McDonald wedi cwrdd â’r ferch yn ystod oriau mân y bore ar 30 Mai.

Fe aethon nhw yn ôl i’r Premier Inn ger Rhyl a chael rhyw. Cyrhaeddodd Ched Evans ac fe gafodd ef hefyd ryw â’r ferch.

Clywodd y rheithgor bod dyn arall Jack Higgins, a brawd Ched Evans, Ryan Roberts, wedi gwylio drwy’r ffenestr.

Roedd recordiad fideo ar ffôn Jack Higgins yn dangos ei fod wedi ffilmio neu wedi ceisio ffilmio beth ddigwyddodd, clywodd y llys.

Honnodd Clayton McDonald bod Ched Evans wedi gofyn a allai gymryd rhan, tra bod Ched Evans yn dweud bod Clayton McDonald wedi gofyn iddo a oedd eisiau cael rhyw â’r ferch.

Wrth roi tystiolaeth dywedodd Clayton McDonald bod y ddynes yn “gwneud synau oedd yn awgrymu ei bod hi’n mwynhau ei hun”.

Dywedodd Ched Evans wrth y rheithgor ei bod hi wedi rhoi ei chaniatâd a’i bod hi “mewn rheolaeth”.

Wrth ddedfrydu Ched Evans, dywedodd y Barnwr Merfyn Hughes QC: “Roedd yr achwynydd yn 19 oed ac yn feddw dros ben.

“Mae’r delweddau camerâu cylch cyfyng yn dangos, yn fy marn i, pa mor feddw oedd hi wrth iddi daro i mewn i’ch cyfaill.

“Mae’r rheithgor wedi penderfynu nad oedd hi mewn cyflwr i gael rhyw.

“Pan gyrhaeddoch chi’r gwesty mae’n rhaid eich bod chi wedi sylweddoli hynny.

“Rydych chi wedi difetha gyrfa lwyddiannus.”

Dywedodd wrth Ched Evans y byddai yn rhaid iddo dreulio o leiaf hanner ei ddedfryd yn y carchar cyn cael ei ryddhau ar barôl.

Dywedodd David Fish QC, wrth ddadlau o blaid lleddfu dedfryd Ched Evans, ei fod yn ddiwrnod “trist iawn” i’r pêl-droediwr.

“Mae’n 23 oed ac wedi ymroi ei fywyd cyfan i’w yrfa ers ei fod yn ei arddegau,” meddai.

“Mae’n yrfa honno bellach wedi ei difetha.”