Mansfield 2–0 Wrecsam

Colli fu hanes Wrecsam yn erbyn Mansfield ar Field Mill yn Uwch Gynghrair y Blue Square nos Wener.

Ac er na all y Dreigiau gael eu dal yn yr ail safle cyn y gemau ail gyfle nid dyma’r paratoadau y byddai Andy Morrell wedi gobeithio eu cael cyn y gemau holl bwysig ar ddiwedd y tymor. Yn enwedig gan gofio y gallant wynebu Mansfield eto yn y gemau hynny.

Roedd y tîm cartref ar y blaen wedi dim ond 13 munud ar ôl i Anthony Howell benio croesiad Exodus Geohaghon heibio i Joslain Mayebi yn y gôl i Wrecsam.

A chafodd Mayebi ei guro eto ar yr awr a hynny gan sgoriwr anhebygol iawn, gôl-geidwad Mansfield, Alan Marriott! Arbedodd Marriott ergyd Jay Harris yn ei gôl ei hun cyn anelu cic hir i fyny’r cae. Aeth y gic honno heibio pawb cyn adlamu dros ben Mayebi ac i gefn y rhwyd. Camgymeriad erchyll gan un golwr yn rhoi gôl i’w chofio i’r llall.

Felly yr arhosodd hi tan y diwedd a bydd rhaid i Wrecsam wella os am esgyn o’r Gyngres y tymor hwn.