Gweilch 31–12 Dreigiau

Sgoriodd Shane Williams drosgais wrth i’r Gweilch guro’r Dreigiau ar y Liberty yn y RaboDirect Pro12 nos Wener. Efallai mai hon fydd gêm gartref olaf yr asgellwr i’w ranbarth a choronwyd hi mewn steil wrth i’w gais hwyr sicrhau pwynt bonws i’w dîm. Wedi dweud hynny, mae’r fuddugoliaeth yn gwella gobeithion y Gweilch o orffen yn ail yn y Pro12 a sicrhau gêm gartref arall yn y rownd gynderfynol.

Hanner Cyntaf

Dechreuodd y tîm cartref ar dân gyda Dan Biggar a Hanno Dirksen yng nghanol popeth. Ond er gwaethaf goruchafiaeth y Gweilch y Dreigiau aeth ar y blaen wedi deg munud pan drosodd Lewis Robling gic gosb wych o’r llinell hanner.

Tarodd y Gweilch yn ôl gyda thri phwynt o droed Biggar bum munud yn ddiweddarach cyn i Robling adfer mantais yr ymwelwyr gyda’i ail gic wedi 18 munud.

Ond dim ond mater o amser oedd hi mewn gwirionedd cyn i’r Gweilch sgorio’r cais agoriadol a daeth hwnnw i Ryan Jones hanner ffordd trwy’r hanner. Bu bron i’r canolwr, Andrew Bishop, groesi yn dilyn dwylo da gan yr olwyr cyn i’r blaenasgellwr orffen y gwaith wrth fôn y ryc. Llwyddodd Biggar gyda throsiad anodd o’r ystlys, 10-6 i’r Gweilch wedi 20 munud.

Cafodd y Dreigiau ychydig bach mwy o feddiant wedi hynny ond roeddynt dal o dan bwysau yn y sgrym. Pwysleisiwyd hynny wedi 35 munud pan anfonwyd y prop, Nathan Buck, i’r gell gosb ac yna eto funud yn ddiweddarach pan redodd Nigel Owens o dan y pyst i ddynodi cais cosb i’r Gweilch

17-6 y sgôr yn dilyn trosiad syml Biggar ac felly yr arhosodd hi tan yr egwyl.

Ail Hanner

Roedd y Dreigiau yn ôl yn y gêm erbyn hanner ffordd trwy’r ail hanner diolch i ddwy gic gosb o droed Robling. Daeth y gyntaf wedi 46 munud yn dilyn trosedd yn ardal y dacl gan Ryan Bevington a’r ail wedi 57 munud wedi i’r Gweilch ddymchwel sgrym osod.

Rhwng y ddwy gic cafodd Biggar ei anfon i’r gell gosb am atal Aled Brew rhag cymryd cic gosb gyflym.

Daeth Dan Way i’r cae fel eilydd yn lle Nathan Buck toc wedi’r awr ond chafodd yr eilydd brop ddim gwell lwc yn y sgrym a chafodd yntau hefyd ei anfon i’r gell gosb ddeg munud o’r diwedd.

A manteisiodd y Gweilch yn llawn y tro hwn gyda dau gais hwyr yn erbyn y pedwar dyn ar ddeg. Cais cosb oedd y cyntaf wrth i bac y Dreigiau barhau i gael trafferthion gyda sgrym y Gweilch.

Cymerodd Biggar y trosiad yn gyflym i roi amser i’w dîm gipio pedwerydd cais a phwynt bonws cyn y chwiban olaf. Ac fe ddaeth y cais hwnnw gyda’r cloc yn goch, a’r sgoriwr? Pwy arall ond Shane Williams yn ei gêm olaf ar y Liberty.

Dim ond un ffugiad oedd ei angen ar yr asgellwr bach i guro dau amddiffynnwr a rhedeg at y llinell heb ei gyffwrdd. Ac i goroni’r cyfan, trosodd ei gais ei hun wrth iddi orffen yn 31-12 o blaid y Dreigiau.

Ymateb

Diweddglo teilwng i gêm olaf Shane ar y Liberty o bosib ac roedd ganddo eiriau caredig iawn i’w ranbarth ar y diwedd:

“Yma mae craidd popeth yr wyf wedi ai gyflawni yn fy ngyrfa, o’r Aman i’r Gweilch. Mae wedi bod yn wych a dyma fy nghartref bellach, mae fy ngwaed yn ddu!”

Yr eironi o bosibl yw’r ffaith fod cais hwyr Shane a’r pwynt bonws a ddaeth i’w ganlyn yn gwella gobeithion y Gweilch o orffen yn ail yn y Pro12 a sicrhau gêm gartref yn y rownd gynderfynol.

Mae’r pum pwynt yn eu rhoi saith yn glir o Munster yn y trydydd safle cyn iddynt hwy herio’r Scarlets yfory. Byddai buddugoliaeth i’r Gweilch yn Aironi mewn pythefnos felly yn ddigon i sicrhau gêm gartref iddynt yn y pedwar olaf ac un gêm fach arall i Shane yng Nghymru o bosib.