Ched Evans ar y chwith, a Clayton McDonald
Mae’r rheithgor wedi dechrau trafod achos y ddau bêl-droediwr sydd wedi eu cyhuddo o dreisio dynes a oedd yn “rhy feddw i gytuno” i gael rhyw.

Mae Chedwyn Evans, y pêl-droediwr rhyngwladol 23 oed sy’n chwarae i glwb Sheffield United, a Clayton McDonald, sydd hefyd yn 23 oed ac yn chwarae i Port Vale, yn gwadu iddyn nhw ymosod ar y ferch 19 oed mewn gwesty Premier Inn ger Y Rhyl ym mis Mai y llynedd.

Fe ddywedodd y ddynes, sydd ddim yn cael ei henwi oherwydd rhesymau cyfreithiol, wrth yr heddlu nad oedd ganddi unrhyw gof o’r digwyddiad ac mae’r erlyniad yn dweud ei bod yn rhy feddw i gytuno i gael rhyw.

Fe glywodd y rheithgor fod McDonald wedi cyfarfod y ddynes ar y stryd, cyn ei hebrwng i’r gwesty lle gawson nhw ryw, cyn i Evans ymuno a chael rhyw gyda’r ddynes hefyd.

Wrth i hyn ddigwydd roedd y rheithgor yn cael ar ddeall fod Jack Higgins a Ryan Roberts, brawd Evans, wedi bod yn gwylio trwy’r ffenestr.

Roedd recordiadau fideo ar ffôn Higgins yn dangos ei fod yn ffilmio neu’n ceisio ffilmio’r digwyddiad.

Mae Evans a McDonald yn cyfaddef iddyn nhw gael rhyw gyda’r ferch, ond yn gwadu ei threisio ac yn mynnu ei bod “yn rheoli ei gweithredoedd” ac wedi cytuno i’r hyn ddigwyddodd.

Mae’r ddau yn ffrindiau ers pan oedden nhw’n rhannu llety tra’n mynychu academi ieuenctid Manchester City yn ddeg oed.