Y Seintiau Newydd – Bangor
Bydd Bangor yn teithio i Neuadd y Parc i herio’r Seintiau Newydd o flaen camerâu Sgorio brynhawn Sadwrn, ac mae’n rhaid i’r Dinasyddion gipio’r tri phwynt os ydynt am gadw eu gafael ar dlws Uwch Gynghrair Cymru.
Curodd Bangor y Seintiau ar Ffordd Farrar ar ddiwrnod olaf y tymor diwethaf i gipio’r gynghrair am y tro cyntaf ers 1995 ond bydd rhaid iddynt guro’r tîm llawn amser oddi cartref os ydynt am orffen ar frig y tabl eto’r tymor hwn.
A bydd rhaid iddynt wneud hynny heb eu prif sgoriwr a ffefryn y cefnogwyr, Les Davies. Mae’r ymosodwr wedi ei wahardd ar ôl derbyn pum cerdyn melyn dros yr wythnosau diwethaf. Ond ar wahân i Les mae Nev Powell yn gobeithio y bydd pawb arall ar gael:
“Mae gan Mark Smyth a Chris Roberts fân anafiadau. Wnaethon nhw ddim ymarfer neithiwr ond dwi’n siŵr na fyddan nhw am fethu gêm mor fawr â hon.”
Does dim dwywaith y bydd Les Davies yn golled i’r Dinasyddion ond o leiaf mae Smyth wedi bod yn sgorio dipyn yn ddiweddar. Ef sgoriodd y drydedd yn y fuddugoliaeth o 3-1 yng Nghastell Nedd yr wythnos diwethaf a sgoriodd ddwy yn erbyn y Bala’r wythnos flaenorol. Ond a fydd angen newid tactegau heb Les, y blaenwr mawr?
“Dim felly, mae gennym hogiau arall all wneud y job y mae Les yn ei gwneud. Roedd ein capten, James Brewerton, allan yr amser yma’r tymor diwethaf ac fe lwyddom i wneud hebddo. Rydym wedi bod yn dweud wrth yr hogiau sydd wedi bod ar y fainc mai carfan ydym ni’r tymor hwn, nid tîm.”
Tybed a fydd digwyddiadau’r diwrnod olaf y tymor diwethaf yn rhoi mantais seicolegol i dîm Powell y tymor hwn?
“Rydym yn gwybod mai nhw yw’r tîm llawn amser ac y bydd hi’n anodd iawn ar eu cae plastic nhw ond does dim yn codi ofn arnom ni ar ôl y tymor diwethaf. I raddau, mae ein swydd ni wedi ei gwneud yr wythnos diwethaf trwy sicrhau pêl droed Ewropeaidd ond mae’r cefnogwyr a’r clwb ar dân yn dilyn tymor gwych ac fe fyddwn ni’n gobeithio mynd un cam yn well.”
Yn wir, mae’n bosib y bydd hyd at fil o gefnogwyr Bangor yn teithio i Groesoswallt, pa mor bwysig fydd y dorf felly?
“Dwi wedi clywed y bydd yna 1,500! Maen nhw’n sicr yn rhan enfawr o bob dim yr ydym yn ei wneud. Roedd yna 250 yng Nghastell Nedd yr wythnos diwethaf. Roeddynt mor swnllyd yn yr hanner cyntaf ac fe ymatebodd y chwaraewyr gyda pherfformiad a oedd yn llawn haeddu curo tîm llawn amser. Os fydd hynny’n digwydd eto yfory, fe fydd gennym obaith.”
Mae Sgorio yn dechrau am 15:00 gyda’r gic gyntaf o Neuadd y Parc am 15:30.