Y Seintiau Newydd
– Bangor

Bydd y Seintiau Newydd yn cael eu coroni fel pencampwyr Uwch Gynghrair Cymru os allant osgoi colli gartref yn erbyn Bangor yng ngêm fyw Sgorio brynhawn Sadwrn.

Mae’r sefyllfa’n debyg iawn i’r tymor diwethaf, Bangor angen ennill ond pwynt yn ddigon i’r Seintiau. Ond er i’r Seintiau ildio’r teitl ar y diwrnod olaf y llynedd mae ganddynt y fantais o chwarae gartref y tro hwn.

Y newyddion da i’r Seintiau yw mai dim ond ddwywaith y maent wedi colli ar Neuadd y Parc trwy gydol y tymor hwn ond y newyddion drwg yw mai Bangor oedd un o’r timau i’w trechu. 4-3 oedd y sgôr o blaid y Dinasyddion pan gyfarfu’r ddau dîm ym mis Tachwedd ond y Seintiau a enillodd y ddwy gêm arall rhwng y timau’r tymor hwn.

Fe fydd hi’n brynhawn diddorol iawn i chwaraewr canol cae’r Seintiau, Nicky Ward. Fe enillodd Ward y teitl gyda Bangor y tymor diwethaf ar ôl ennill y gynghrair bedair gwaith gyda’r Seintiau yn y gorffennol. Bellach mae Ward yn ôl gyda’r Seintiau ac mae’r chwaraewr 34 mlwydd oed wedi bod yn un o’u chwaraewyr gorau dros yr wythnosau diwethaf.

“Dwi’n siwr y  bydd yna dipyn o dynnu coes ond cefnogwyr Bangor yw’r rhai gorau yn y gynghrair o bell ffordd… Y tîm gyda’r ffydd a’r penderfyniad cryfaf aiff a hi yn y diwedd. Roedd Bangor yn benderfynol iawn y tymor diwethaf ond rydym ni felly’r tymor hwn.”

Mae goliau Ward o ganol cae wedi bod o gymorth i’r Seintiau ond ymdrechion y tri blaen sydd wedi rhoi’r Seintiau ar frig y tabl y tymor hwn. Mae’r prif sgoriwr, Greg Draper wedi rhwydo 19 gôl ac Alex Darlington wedi cyfrannu gyda 12. Mae Matty Williams hefyd wedi sgorio naw er mai dim ond deg gêm y mae ef wedi ei dechrau.

Mae amddiffyn y Seintiau wedi bod yn gryf iawn hefyd gan gadw deuddeg llechen lân yn y gynghrair. Dim ond 31 gôl y maent wedi eu hildio mewn 31 gêm a dim ond Castell Nedd sydd â record cystal.

Bydd llechen lân arall yn ddigon i’r Seintiau ennill yr Uwch Gynghrair ond siawns y bydd Craig Harrison a’i dîm yn gobeithio cipio’r teitl mewn steil gyda buddugoliaeth yn erbyn Bangor.

Mae Sgorio yn dechrau am 15:00 gyda’r gic gyntaf o Neuadd y Parc am 15:30.