Prifysgol Bangor (Dave Thompson/PA)
Fe fydd adeilad Neo-gothig Prifysgol Bangor yn chwarae rhan gwallgofdy Fictoraidd mewn cyfres newydd arswydus.
Bydd Prif Adeilad y Celfyddydau yn ymddangos yng nghyfres Bedlam, fydd hefyd yn serennu enillydd Pop Idol, Will Young.
Bydd pennod gyntaf y gyfres yn cael ei dangos ar y teledu am y tro cyntaf heno ma.
Cafodd carreg sylfaen yr adeilad ei osod yn 9 Gorffennaf 1907 gan y Brenin Edward VIII, a symudodd y myfyrwyr yno yn 1911.
Henry Hare oedd pensaer y Coleg ar y Bryn, sy’n edrych i lawr ar weddill dinas Bangor.
Bydd Will Young, 32 oed, yn chwarae rhan Ryan, sy’n symud i fflat moethus ar safle’r cyn-wallgofdy.
Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Bangor bod criw’r ffilm wedi aros yng Nghanolfan Rheolaeth newydd y brifysgol.
Bydd y gyfres yn dechrau am 10pm heno ar Sky Living.