A fyddai'n edrych rywbeth fel hyn?
Mae Plaid Cymru eisiau creu ‘Llwybr Enwogion Cymru’ yng Nghaerdydd neu Abertawe, fyddai’n debyg i’r ‘llwybr enwogrwydd’ yn Hollywood.

Y nod medden nhw fyddai dathlu a hybu doniau Cymru yn y celfyddydau, chwaraeon a diwylliant.

Gyda dadorchuddio pob seren newydd, fe geid gweithgareddau fyddai’n denu ymwelwyr i Gymru gyda chyfle i ddathlu llwyddiannau Cymru, medden nhw.

“Gallai’r dathliad weld sêr rhyngwladol megis Tom Jones a Shirley Bassey yn cynnal perfformiadau dod adref fel rhan o ddadorchuddio eu seren, neu noson o weithgareddau gyda phobl fel Joe Calzaghe ac Anthony Hopkins wrth iddynt gael eu hanrhydeddu ar ein strydoedd fel rhan o ‘Lwybr Enwogion Cymru’,” meddai’r Blaid.

‘Hybu Cymru’

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Alun Ffred Jones, bod y Cymry wedi gwneud cyfraniad diwylliannol sylweddol ar draws y byd.

“Da o beth fyddai dathlu’r unigolion sydd wedi hybu enw Cymru ledled y byd,” meddai.

“Byddai dadorchuddio pob seren ar y llwybr enwogion yn ddigwyddiad gwych, gyda nifer o weithgareddau wedi eu trefnu o’i gwmpas fyddai’n anrhydeddu’r unigolyn ac yn denu llawer o ymwelwyr hefyd.

“Rwy’n hyderus y byddai nid yn unig yn help i gydnabod llwyddiannau Cymru, ond hefyd yn codi ymwybyddiaeth o Gymru fel cyrchfan twristiaeth ddiwylliannol.

“Byddai talu teyrnged i sêr Cymreig byd y celfyddydau, chwaraeon a diwylliant yn dod yn ddigwyddiad ar y calendr fel y gallai pobl drefnu ymweliadau â Chymru i gymryd rhan ynddo.

“Byddai’n gwneud llefydd fel Abertawe neu Gaerdydd yn gyrchfannau gwyliau byr mewn dinas Ewropeaidd, a byddai modd trefnu gweithgareddau hybu i amlygu cyfleoedd twristiaeth gwych eraill sydd gan Gymru i’w cynnig. Byddai hyn yn gwneud y llwybr enwogion yn fan cychwyn i dwristiaeth fel sbardun economaidd yng Nghymru.”