Pentref Eidalaidd Portmeirion
Mae gŵyl gerddoriaeth fawr fydd yn gobeithio denu dros 7,000 o bobl am gael ei chynnal ym mhentref Portmeirion ym mis Medi.
Mae Gŵyl Rhif 6 yn mynd i gyfuno cerddoriaeth a chelfyddydau medd y trefnwyr, a bydd lle i wersylla ar y safle mewn pebyll a yurtiau, sef cytiau o Fongolia. Mae enw’r ŵyl yn gyfeiriad at gyfres The Prisoner a gafodd ei ffilmio ym Mhortmeirion yn y 1960au.
Dywed rheolwr safle Portmeirion, Meurig Jones, nad y pentref sy’n trefnu’r ŵyl ond cwmni digwyddiadau o Fanceinion, ond bod Portmeirion wedi pwysleisio’r “angen am amrywiaeth a chael bandiau Cymraeg i chwarae.”
Dywed Jo Crago o gwmni Ear to the Ground eu bod nhw wedi dewis Portmeirion am ei fod yn “lleoliad godidog a bod hanes i’r lle fel lleoliad cyfres The Prisoner.”
Cwmni cysylltiadau Carousel sy’n hyrwyddo’r ŵyl a dywed Jen Higgins o’r cwmni nad cerddoriaeth yn unig fydd yno, ac y bydd perfformiadau llafar, stondinau, ac arddangosfeydd hefyd.
“Ry’n ni eisiau cyfleu diwylliant yr ardal ond byddwn ni hefyd yn gobeithio denu ymwelwyr o bell i’r ŵyl felly bydd amrywiaeth o bethau’n digwydd yno.
“Nid yw rhestr y perfformwyr yn gyfan eto ond byddwn ni’n cyhoeddi’r wybodaeth yn fuan,” meddai Jen Higgins.
Bydd Gŵyl Rhif 6 yn digwydd dros benwythnos 14-16 Medi http://www.festivalnumber6.com/cy/welcome