Al Lewis Band
Bydd Al Lewis yn mynd ar daith, gan berfformio mewn nifer o leoliadau amrywiol ledled Cymru dros yr wythnosau nesaf.

Mae’r daith yn cael ei threfnu ar y cyd rhyngddo â’r grŵp Paper Aeroplanes – mae Al a Sarah Howells o’r grŵp yn hen ffrindiau, ac mae Sarah wedi cyfrannu llais cefndir i nifer o’i ganeuon yn y gorffennol.

“Y nod efo’r daith yma ydi i drio cyfuno’r cynulleidfaoedd Cymraeg a Chymreig mewn lleoliadau cyfforddus a chroesawgar” meddai Al Lewis wrth Golwg360.

“Rydan ni hefyd yn mynd i lefydd efallai na fyse bandiau’n mynd iddynt ar daith arferol o gwmpas Cymru.”

Iawn i ganu’n Saesneg

Mae Paper Aeroplanes yn grŵp Cymreig sydd wedi cael cryn lwyddiant trwy ganu’n Saesneg ac sydd bellach ar fin rhyddhau eu trydydd albwm.

“Mae gaen y ddau fand aelodau sy’n siarad Cymraeg ac eto yn dod o ardaloedd gwbl wahanol – dwi o’r Gogledd a Sarah o’r De-orllewin.”

“Mae’r ddau ohonom hefyd yn canu’n rhannol yn Saesneg, felly da ni’n trio dangos nad os rhaid cyfyngu’ch cynulleidfa – gall pobol sy’n methu siarad Cymraeg fwynhau cerddoriaeth Gymraeg cymaint ag y gall siaradwyr Cymraeg mwynhau’r caneuon yn Saesneg.”

“Does dim rhaid teimlo bod artist yn bradychu’r iaith trwy ganu’n Saesneg na chwaith y gwrandawyr drwy wrando arnynt” ychwanegodd Al.

Nashville yn neis

Mae Al Lewis newydd ddychwelyd o America, lle bu’n recordio ar gyfer ei albwm nesaf am bythefnos yn Nashville.

“Byddai’n perfformio cymysgedd o ganeuon oddi ar ‘Ar Gof a Chadw’ [albwm diweddaraf Al Lewis Band], ‘Sawl Ffordd Allan’ [yr albwm blaenorol] a hefyd yr albwm newydd Saesneg am y tro cyntaf ar y daith” meddai.

Mae’n gobeithio bydd yr albwm newydd yn gweld golau dydd erbyn yr hydref, ac roedd y profiad o recordio yn Nashville yn un cofiadwy.

“Roedd yn brofiad anhygoel cael gweithio mewn dinas lle mai’r prif gynnyrch a gweithgarwch ydi cerddoriaeth.”

“Mae’r awyrgylch yno’n reit drydanol o feddwl cymaint o bobol greadigol sydd yno.”

“Roedd yn fraint cael gweithio gyda cherddorion mor dalentog oedd yn deall yn syth be ro’n i isho cyflawni.”

Mae’r daith gyda Paper Aeroplanes yn dechrau yn Stiwdio Acapela ym Mhentyrch ar 4 Mai.

Dyddiadau llawn y daith:

4 Mai – Stiwdio Acapela, Pentyrch

5 Mai – The Parrot, Caerfyrddin

10 Mai – Llew Du, Aberystwyth

11 Mai – Blue Sky Cafe, Bangor

12 Mai – Tŷ Siamas, Dolgellau

8 Mehefin – Theatr Grand, Abertawe

9 Mehefin – Theatr Torch, Aberdaugleddau

Mwy o fanylion am y daith yma.