Jac Jones
Un o ddarlunwyr llyfrau plant amlycaf Cymru dros y 50 mlynedd diwethaf sydd wedi ennill Tlws Mary Vaughan Jones eleni.

Jac Jones yw’r darlunydd cyntaf erioed i ennill y tlws, sy’n cael ei chyflwyno bob tair blynedd i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig i lenyddiaeth plant yng Nghymru.

Mae’r tlws yn cael ei gyflwyno gan Gyngor Llyfrau Cymru, er cof am Mary Vaughan Jones a fu farw yn 1983.

‘Braint aruthrol’

Dywedodd Jac Jones, sy’n hanu o Walchmai ar Ynys Môn, ei bod hi’n “fraint aruthrol” iddo dderbyn y tlws eleni.

“Mae’n brofiad arbennig iawn i mi gan mai fi wnaeth ddarlunio Jac y Jwc, un o gymeriadau hoffus Mary Vaughan Jones – cymeriad sydd wedi tyfu yn un o ffefrynnau mawr cenedlaethau o blant,” meddai.

Cafodd Jac Jones ei eni yng Ngwalchmai ar ddydd Gŵyl Dewi 1943. Yn 17 oed aeth i weithio mewn uned graffeg yn Llangefni cyn mentro ar ei liwt ei hun fel dylunydd graffeg yn 1974.

Yn ystod ei yrfa, mae wedi darlunio dros ddau gant a hanner o lyfrau plant, ac ers 1976 mae wedi bod yn cydweithio â llu o awduron er mwyn darlunio’u gwaith.

Twmff y Gath

Ymhlith rhai o’r cymeriadau y mae wedi eu creu dros y blynyddoedd y mae Mabon a Mabli’r Mudiad Meithrin a Twmff y Gath yn y cylchgrawn plant WCW a’i Ffrindiau. Mae hefyd wedi creu graffeg ar gyfer dwsinau o raglenni teledu.

Ond yn ogystal â darlunio llyfrau gan awduron eraill, mae Jac Jones yn awdur llyfrau plant ac wedi cyhoeddi nifer o gyfrolau yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Mae eisoes wedi ennill gwobr Tir na n-Og dair gwaith am ei waith yn darlunio’r cyfrolau Ben y Garddwr a Storïau Eraill yn 1989, Lleuad yn Olau yn 1990, a Stori Branwen yn 1998.

Enillodd darn o’r gwaith celf a greodd ar gyfer Lleuad yn Olau le yn Premi de Catalonia, cyfeirlyfr o waith arlunwyr plant y byd.

“Mae cyfraniad Jac Jones wedi bod yn allweddol i ddatblygiad llyfrau plant yng Nghymru,” meddai Delyth Humphreys, Pennaeth Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen y Cyngor Llyfrau.

“Mae’n anodd mesur maint ei ddylanwad wrth i ddiwyg llyfrau gwreiddiol yn y ddwy iaith wella dros y blynyddoedd.  Wrth ei longyfarch ar ennill Tlws Mary Vaughan Jones – yr anrhydedd uchaf ym maes llyfrau plant yng Nghymru – carem ddiolch iddo hefyd am ei gyfraniad amhrisiadwy.’

Bydd Tlws Mary Vaughan Jones 2012 yn cael ei gyflwyno i Jac Jones mewn seremoni arbennig yn Oriel Môn, Llangefni ar 1 Mehefin.

Ers ei gyflwyno am y tro cyntaf yn 1985, mae enillwyr Tlws Mary Vaughan Jones wedi cynnwys Ifor Owen, Emily Huws, T Llew Jones, W J Jones, Roger Boore, J Selwyn Lloyd, Elfyn Pritchard, Mair Wynn Hughes ac Angharad Tomos.