Mae 10 o swyddi i fynd gyda S4C, yn sgil rownd arall o ail-strwythuro o fewn y Sianel.

Mae disgwyl y bydd tri o’r swyddi hyn yn deillio o’r ffaith fod  nifer y Cyfarwyddwyr sy’n gweithio gyda’r Prif Weithredwr yn cael eu torri o saith i bedwar.

Daeth y cyhoeddiad ynglŷn â’r toriadau diweddaraf o fewn y Sianel y prynhawn yma.

Dywedodd y Sianel heddiw y byddai natur a ffurf yr adrannau yn newid yn sgil yr ail-strwythuro, ac y byddai’r 10 swydd arall sydd am gael eu torri yn ychwanegol at y 32 sydd eisoes wedi mynd yn sgil y cynllun diswyddo gwirfoddol yno ers 2010.

Yn ôl S4C, fe fydd yr ail-strwythuro yn golygu bod nifer o swyddi yn cael eu “hail-ddiffinio” a bod rhai swyddi newydd yn cael eu hysbysebu maes o law.

Fe fydd swyddogaethau Cyfarwyddwr Materion Busnes a Chyfarwyddwr Darlledu a Dosbarthu yn dod i ben yn sgil y newidiadau, a bydd swydd y Cyfarwyddwr Anweithredol ar y Tîm Rheoli yn cael ei dileu.

Y Tîm Rheoli newydd fydd Ian Jones, y Prif Weithredwr, Kathryn Morris, y Cyfarwyddwr Cyllid, Dafydd Rhys, y Cyfarwyddwr Cynnwys, Garffild Lloyd Lewis, y Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Marchnata a Phartneriaethau, ac Elin Morris, Cyfarwyddwr Corfforaethol a Masnachol. Bydd Phil Williams, Ysgrifennydd Awdurdod S4C,  yn parhau i fynychu cyfarfodydd Tîm Rheoli S4C fel arsyllwr.

Wrth gyhoeddi’r newyddion heddiw, dywedodd Ian Jones fod yr ail strwythuro yn ddechrau ar “broses i baratoi S4C ar gyfer dyfodol cyfnewidiol a llawn her.”

Dywedodd mai’r nod oedd “gosod y gwyliwr yng nghanol popeth sy’n bwysig i S4C drwy gynnig cynnwys o’r ansawdd gorau posib fydd ar gael unrhyw bryd ar bob llwyfan posib.

“Dwi’n siŵr y bydd y strwythur newydd yn creu hinsawdd gyffrous fydd yn hybu creadigrwydd a beiddgarwch tra ar yr un pryd yn cynnig elfen o sefydlogrwydd a chynllunio hir dymor.”

Y Cefndir

Daw’r newyddion ar ganol addewidion o dorri a chyflymu prosesau o fewn S4C gan y Prif Weithredwr newydd Ian Jones, sydd yn ei swydd ers ddiwedd Ionawr.

Hwn yw’r diweddaraf mewn cyfres o doriadau gan S4C ers i Ian Jones fod wrth y llyw.

Ddechrau Chwefror eleni, fe gyhoeddodd y Sianel fod nifer eu tîm Comisiynu am gael ei dorri o naw i bump, a diwedd Mawrth, fe daeth y newyddion fod aelodau o dîm rheoli’r Sianel yn mynd i roi’r gorau i fuddiannau fel ceir cwmni ac yswiriant iechyd preifat.

Dywedodd Ian Jones ar y pryd fod hyn yn rhan o’r ymdrech i wneud “arbedion ariannol mewnol” yn S4C.