Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi mai Eirlys Britton o Gaerdydd sydd wedi ennill Medal Goffa Syr T H Parry-Williams ar gyfer 2012.
Bydd y gyn-athrawes, y gyn-actores, a’r hyffroddwraig dawnsio gwerin brwd yn derbyn y wobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni am ei chyfraniad i fywyd diwylliannol Pontypridd am dros 30 mlynedd.
Mae’r Fedal yn cael ei rhoi yn flynyddol i unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad helaeth i’w hardal leol, gyda phwyslais arbennig ar weithio gyda phobol ifanc.
Mae Eirlys Britton yn wreiddiol o Gaerdydd, ac fe fu’n un o ddisgyblion cyntaf Ysgol Rhydfelen, Pontypridd. Aeth ymlaen i astudio Drama yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, cyn mynd yn athrawes, ac yna’n actores, gan ymuno â chast Pobol y Cwm fel cymeriad Beth Leyshon am flynyddoedd.
Dawnsio gwerin
Ond mae ei hymrwymiad i fyd dawnsio gwerin wedi para blynyddoedd, ar ôl magu diddordeb yno tra’n athrawes ifanc yn Ysgol Heol y Celyn, Pontypridd.
Arweiniodd y diddordeb hwnnw at ffurfio grŵp Dawnswyr Nantgarw gyda chydweithwyr a staff yr ysgol yn 1980.
Ers hynny, mae’r tîm dawnsio gwerin wedi bod yn hynod o lwyddiannus, gan gipio prif wobr yr Eisteddfod Genedlaethol 13 o weithau, ac maen nhw hefyd wedi cael llywddiant yn yr Ŵyl Ban Gelataidd, Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen, a Chystadleuaeth Dawnsio Gwerin y Byd yn Mallorca.
Eirlys Britton oedd hefyd yn gyrfifol am ffurfio grŵp ‘Dawnswyr Nantgarw Bach’ yn arbennig ar gyfer pobol ifanc.
Y bwriad wrth sefydlu Dawnswyr Nantgarw, medd Eirlys Britton, oedd atgyfodi rhai o hen draddodiadau a dawnsfeydd Cwm Taf a Morgannwg, a chynnwys pobol ifanc yn Gymry Cymraeg a di-Gymraeg.
Eirlys Britton oedd hefyd yn gyfrifol am greu’r ddawns ar gyfer seremoni’r Prif Lenor yn yr Eisteddfod Genedlaethol rai blynyddoedd yn ôl – y ddawns sydd wedi cael ei defnyddio bob blwyddyn ers hynny.
‘Cyfraniad gwerthfawr’
Wrth gyhoeddi enw enillydd Medal Goffa T H Parry-Williams heddiw, dywedodd yr Eistedfod fod cyfraniad Eirlys Britton i “fywyd diwylliannol ei hardal – a Chymru – yn hynod werthfawr.”
Bydd Eirlys Britton yn derbyn y Fedal ar lwyfan y Pafiliwn yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg, sy’n cael ei gynnal ar dir hen faes awyr Llandŵ rhwng 4-11 Awst eleni.