Pafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol
Bydd Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol yn arbed bron i chwarter miliwn o bunnau o’r gwariant ar Eisteddfod Bro Morgannwg eleni oherwydd y colledion yn Glyn Ebwy a Wrecsam.
Dim ond un patio bwyd ac un llwyfan perfformio fydd ar y maes ac fe fydd y pafiliwn a Maes B yn llai.
Dywedodd Llywydd yr Eisteddfod, Prydwen Elfed Owens beth bynnag y bydd modd arbed peth arian gan fod safle’r Eisteddfod ar dir sydd o ansawdd da ac na fydd felly angen gwario cymaint arno.
Er mai araf deg yw gwerthiant y tocynnau ar gyfer y cyngherddau, mae nifer helaeth wedi cystadlu am brif wobrau’r Eisteddfod.
Mae 32 wedi ymgeisio am y Goron, 10 am y gadair a 37 am wobr Dysgwr y Flwyddyn – y nifer mwyaf erioed yn y gystadleuaeth yma.
Yn ystod cyfarfod y Cyngor hefyd dewiswyd John Gwilym Jones yn Gymrawd o’r Eisteddfod a chyhoeddwyd mai Eirlys Britton fydd yn derbyn medal T.H. Parry Williams eleni.