Brad Pitt ac Angelina Jolie
Ar ôl blynyddoedd maith yn byw dan yr un to mae Brad Pitt ac Angelina Jolie wedi dyweddïo.
Dywedodd asiant Brad Pitt, Cynthia Pett-Dante, nad oedd yna ddyddiad penodol “ar hyn o bryd”.
Mae gan Brad Pitt ac Angelina Jolie chwe phlentyn, tri o’r rheini wedi eu mabwysiadu. Ychwanegodd Cynthia Pett-Dante bod y plant “wrth eu boddau”.
Datgelodd gemydd personol Angelina Jolie ei bod hi a Brad Pitt wedi treulio blwyddyn yn cynllunio’r fodrwy. Mae’n debyg ei fod yn cynnwys un diemwnt mawr â sawl diemwnt llai o’i amgylch.
“Roedden ni wedi dod o hyd i ddiemwntau o’r safon uchaf ac wedi eu torri mewn modd sy’n gweddu bysedd hir, tenau Angelina i’r dim,” broliodd cwmni diemwntau Robert Procop.
“Roedd Brad Pitt yn rhan annatod o’r broses drwyddi draw, gan gynnwys lleoliad galaeth o ddiemwntau llai sy’n coroni’r fodrwy.
“Cymerodd flwyddyn gyfan i ddod at derfyn y daith greadigol arbennig yma, ac fe ddewisodd Brad Pitt yr eiliad perffaith i ddatgelu’r fodrwy arbennig i Angelina Jolie.”