Bydd newyddiadurwyr a thechnegwyr BBC Cymru yn pleidleisio o blaid mynd ar streic ai peidio, oherwydd ffrae ynglŷn â diswyddo cynhyrchydd.

Fe fydd aelodau Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr ac undeb technegwyr Bectu, sy’n gweithio yng Nghaerdydd a Bangor, yn dechrau pleidleisio ar 20 Ebrill.

Mae disgwyl y canlyniad ar 14 Mai. Fe fyddwn nhw’n penderfynu a ydyn nhw’n mynd i weithredu’n ddiwydiannol er mwyn cefnogi Heidi Williams.

“Mae’r modd y mae’r rheolwyr wedi trin Heidi Williams yn ymosodiad ar yr undeb llafur yn BBC Cymru a does dim cyfiawnhad drosto,” meddai ysgrifennydd cyffredinol cynorthwyol Bectu, Luke Crawley.

“Rydyn ni’n hyderus y bydd aelodau yn cefnogi’r streic ac yn gweithredu pe bai rheolwyr yn methu â datrys y materion sy’n ymwneud â diswyddo Heidi.”

Dywedodd Michelle Stanistreet, ysgrifennydd cyffredinol Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr, na fyddwn nhw’n caniatáu i’r BBC bigo ar aelodau.

“Mae un o gynrychiolwyr mwyaf ymroddedig Bectu wedi ei thargedu ar adeg pan mae’r undebau yn brwydro yn erbyn toriadau digynsail yn y BBC,” meddai.

“Mae cynrychiolwyr yr undebau llafur yn chwarae rhan hanfodol yn y frwydr yma, gan sefyll yn gadarn er mwyn amddiffyn buddiannau pob un o’r aelodau.

“Fyddwn ni ddim yn caniatáu iddyn nhw gael gwared ar aelodau a’u herlid yn y fath fodd.”

Dywedodd llefarydd ar ran y BBC eu bod nhw’n gweithio agos ag undebau llafur er mwyn datrys yr anghydfod.

Ychwanegodd nad oedd yn briodol gwneud sylw pellach tra bod y trafodaethau yn parhau.