Alun Ffred Jones
Mae Aelod Cynulliad Arfon, Alun Ffred Jones, wedi croesawu’r penderfyniad heddiw i ail-agor swyddfa Tinopolis yng Nghaernarfon.

Dywedodd nad oedd cynulleidfaoedd ar draws Cymru yn teimlo bod rhaglen gylchgrawn newydd y sianel, Heno, yn cynrychioli’r wlad gyfan.

Cyhoeddodd S4C heddiw y bydd swyddfa Tinopolis yng Nghaernarfon yn ail agor gyda’r bwriad o sicrhau presenoldeb cyson o’r Gogledd a’r Canolbarth.

Roedd y penderfyniad yn un o gyfres a fydd yn arwain at newid cynnwys ac arddull y rhaglen Heno.

Daw’r newidiadau yn dilyn ymateb a sylwadau gan wylwyr yn ystod wythnosau cynta’r rhaglen newydd.

“Rydw i’n croesawu’r penderfyniad, nid yn unig o ran y gweithwyr ond hefyd o ran creu rhaglen sy’n cynrychioli Cymru gyfan,” meddai Alun Ffred Jones. “Mae’n newyddion ardderchog.

“Mae’n bleidlais o hyder yng Nghaernarfon ond fe fydd hefyd yn gwella’r rhaglen. Y teimlad ledled y wlad oedd nad oedd y rhaglen bresennol gystal ag yr oedd hi.

“Roedd yn anochel ei bod hi’n mynd i fynd yn fwy plwyfol a lleol. Mae’n biti ein bod ni wedi gorfod mynd drwy’r kerffuffle yma o gwbl.

“Ond dyw hyn ddim yn cuddio’r ffaith bod y BBC yn gwneud toriadau ym Mangor.

“Rydw i’n derbyn bod angen gwneud toriadau. Ond os yw popeth yn cael ei leoli yng Nghaerdydd y canlyniad fydd gwasanaeth digon unllygeidiog a dinesig.”