Hywel Williams
Mae Aelod Seneddol Arfon wedi croesawu’r newyddion heddiw fod cwmni Tinopolis yn bwriadu ail-agor eu swyddfa yng Nghaernarfon.

Yn ôl Hywel Williams, mae’r cyhoeddiad yn “newyddion ardderchog” ac yn newyddion “arbennig o dda i’r diwydiant teledu yn y gogledd.”

Ychydig dros fis ers i’r swyddfa gau yn sgil newidiadau i raglenni cylchgrawn Tinopolis, mae S4C wedi cyhoeddi eu bod nhw’n ail-wampio’r ddarpariaeth.

Bydd y newidiadau yn cynnwys ail-agor y swyddfa yn y Galeri yng Nghaernarfon.

“Dw i’n meddwl y bydd gawasanaeth Tinopolis gymaint gwell o gael canolfan yn y gogledd,” meddai Hywel Williams wrth Golwg 360.

Ond mae’r Aelod Seneddol lleol yn gobeithio y bydd yr ail-agor yn golygu bod y staff yn cael dychwelyd hefyd.

“Gobeithio bydd y staff a gyfranodd gymaint at y cwmni yn cael eu gwaith yn ôl, a gobeithio y bydd y swyddfa ar yr un raddfa ag o’r blaen,” meddai.

Heddiw fe gyhoeddodd S4C y byddai newidiadau yn digwydd i raglenni dyddiol Heno a Prynhawn Da o fis Mai ymlaen.

Roedden nhw’n “ymateb i sylwadau’r gwylwyr” am y rhaglenni newydd a gymrodd lle Wedi 7 a Wedi 3 ar 1 Mawrth.

“Fel rhan o’r newid, bydd swyddfa Tinopolis yng Nghaernarfon yn ail agor gyda’r bwriad o sicrhau presenoldeb cyson o’r Gogledd a’r Canolbarth yn ‘Heno’,” medden nhw.

“Bydd rhai newidiadau hefyd i’r rhaglen brynhawn ‘Prynhawn Da’, eto i ymateb i sylwadau’r gwylwyr,” meddai S4C.

Dywedodd S4C y byddai’r newidiadau yn golygu “rhoi llawer mwy o bwyslais ar gael perthynas agos gyda chynulleidfaoedd ledled Cymru ac adlewyrchu gweithgaredd cymunedol”.