Mae pêl-droedwyr o Gaernarfon a Waunfawr wedi gofyn i Gyngor Gwynedd atal perchnogion cŵn rhag gadael baw ar eu caeau chwarae.

Mae CPD Waunfawr a CPD Caernarfon Borough, sy’n chwarae ar feysydd Parc Helen yn y dref, yn dweud eu bod nhw wedi cael llond bol.

Dywedodd y clybiau eu bod nhw wedi gorfod atal rhai gemau o ganlyniad i’r broblem. Mae baw ci yn gallu achosi toxocariasis, sy’n arwain at ddallineb.

“Mae’n broblem sy’n tueddu i waethygu o fis Ebrill ymlaen wrth i ragor o bobol wneud defnydd o’r caeau chwarae,” meddai llywydd CPD Caernarfon Borough, Emyr Williams.

“Mae’n bryder o ystyried bod cymaint o dimoedd ifanc yn defnyddio’r cae.”

Dywedodd rheolwr CPD Waunfawr Lyndon Roberts, bod rhai timoedd wedi gwrthod chwarae nes eu bod nhw’n datrys y broblem.

“Rydyn ni’n tueddu i roi conau ar ben unrhyw faw ci sydd ar y cae wrth ymarfer.”

Daw’r alwad wedi i glwb rygbi a phêl-droed Dolgellau ddweud eu bod nhw hefyd wedi gorfod atal gemau oherwydd “sypiau anghynnes o faw ci” ar draws eu caeau.

Mae Cyngor Gwynedd a Chlwb Rygbi Dolgellau yn bwriadu gweithio ar y cyd i geisio atal problemau baw cŵn yn ardal Y Marian, Dolgellau.

Dylai unrhyw un sydd yn gwybod am berchennog ci sy’n caniatáu iddo faeddu cae chwarae ffonio Cyngor Gwynedd ar 01766 771000.