Mae Gleision Caerdydd wedi cadarnhau eu bod nhw wedi arwyddo’r prop rhyngwladol Campese Ma’afu a’r blaenasgellwr Robin Copeland o Rotherham cyn dechrau’r tymor newydd.

Cafodd Campese Ma’afu ei a’i fagu yn Awstralia, ac mae ei fam yn dod o Ffiji a’i dad o Tonga.

Mae yn ymuno â’r Gleision o West Harbour Pirates yn Sydney, Awstralia. Mae wedi cynrychioli Ffiji chwe gwaith, ac yn enwog am chwarae yn erbyn ei frawd, y prop Salesi Ma’afu, mewn gêm ryngwladol yn erbyn Awstralia yn 2010.

Bu’n rhan o gêm gyfartal 16-16 (drwg) enwog Ffiji yn erbyn Cymru ym mis Tachwedd 2010.

Mae Robin Copeland, sy’n 6′ 5″ ac yn pwyso 16 stôn a hanner, yn ymuno o’r Rotherham Titans lle mae o wedi sgorio 11 cais mewn 20 gêm y tymor yma.
Dywedodd y Gleision fod ganddo’r gallu i fynd yn bell iawn yn y gêm.

“Rydyn ni’n canolbwyntio ar ddatblygu grŵp o chwaraewyr er mwyn adeiladu at y dyfodol,” meddai hyfforddwr blaenwyr y Gleision, Justin Burnell.

“Mae Robin yn fachgen corfforol â’r gallu i groesi llinell yr amddiffyn ond mae ganddo hefyd y sgiliau i roi’r bêl yn nwylo sgorwyr eraill.

“Daliodd Campese Ma’afu fy sylw yn y gêm gyfartal 16-16 yn erbyn Cymru.

“Rydw i’n credu ei fod wedi gwneud yn dda yn y sgrym yn erbyn Adam Jones, sydd fel yr ydyn ni’n gwybod yn un o’r gorau yn y byd.”