Brew - Dau Gais i'r asgellwr
Dreigiau 32–33 Treviso
Colli fu hanes y Dreigiau yn erbyn Treviso ar Rodney Parade nos Wener er iddynt sgorio pedwar cais. Bu rhaid iddynt fodloni ar bwynt bonws yn unig yn y gêm RaboDirect Pro12 wedi i’r Eidalwyr dirio bedair gwaith hefyd.
Hanner Cyntaf
Roedd y Dreigiau ar y blaen wedi dim ond pedwar munud diolch i gic gosb o droed y maswr, Lewis Robling. Ond dau funud yn unig a barodd y fantais cyn i Kris Burton gicio tri phwynt i Dreviso wedi i Toby Faletau gael ei gosbi am beidio rhyddhau yn y dacl.
Ond roedd mwy i ddod mewn deg munud agoriadol llawn digwydd wrth i Aled Brew groesi am gais cyntaf y gêm wedi wyth munud. Roedd yn symudiad da gan y Dreigiau hefyd a chafwyd dwy bas wych gan Dan Lydiate ac Adam Hughes wrth i’r bêl gael ei lledu i Brew ar y chwith.
Methodd Robling y trosiad cyn methu cyfle arall am dri phwynt bum munud yn ddiweddarach ond roedd gan y Dreigiau fantais o bum pwynt wedi chwarter awr.
Yn ôl y daeth yr Eidalwyr ac roedd hi’n gyfartal unwaith eto wedi 17 munud diolch i gais Alessandro Zanni. Collodd asgellwr y Dreigiau, Tonderai Chavhanga, y bêl yng nghanol y cae cyn i Dreviso wrthymosod yn gyflym gyda dau chwaraewr rheng ôl, Marco Filippucci ac yna Zanni, yn brasgamu at y llinell gais i lawr yr asgell chwith.
Tarodd trosiad Burton y postyn ond roedd yr ymwelwyr yn gyfartal hanner ffordd trwy’r hanner.
Rhoddodd Burton ei dîm ar y blaen bum munud yn ddiweddarach gyda chic gosb cyn i Robling lwyddo i’r Dreigiau i unioni’r sgôr drachefn.
Roedd hi’n ymddangos mai felly y byddai’r hanner cyntaf yn gorffen ond sgoriodd y ddau dîm gais yr un yn y munudau olaf.
Rhyngipiodd Brew bas wael Alberto Sgarbi i sgorio’i ail gais o’r gêm wedi 38 munud. Cymerodd y capten, Adam Hughes, y cyfrifoldebau cicio ar gyfer y trosiad gan lwyddo gyda chic anodd i agor saith pwynt o fantais.
Ond cyfartal oedd hi ar yr egwyl yn dilyn cais y cefnwr, Luke McLean, a throsiad Burton i Dreviso, 18-18 ar hanner amser.
Ail Hanner
Y Dreigiau a ddechreuodd orau wedi’r egwyl a doedd fawr o syndod eu gweld yn mynd yn ôl ar y blaen wedi deg munud o’r ail gyfnod. Sicrhaodd y blaenwr bêl lân yn y lein ar yr asgell dde cyn i’r olwyr ei lledu’n daclus a phwy oedd yn aros ar yr asgell chwith i orffen y symudiad ond yr wythwr, Faletau.
Llwyddodd Hughes gyda’r trosiad i roi saith pwynt o fantais i’r tîm cartref gyda llai na hanner awr ar ôl.
Er bod y gêm yn un agored iawn roedd hi’n frith o gamgymeriadau hefyd ac un o’r camgymeriadau hynny a roddodd y cyfle i Dreviso daro’n ôl bum munud yn ddiweddarach. Cafodd cic Robling ei tharo i lawr gan Burton ar linell 22 medr y Dreigiau a chasglodd maswr yr ymwelwyr hi cyn tirio. Ond methodd a throsi cais ei hun wrth i’r Dreigiau aros ddau bwynt ar y blaen.
Gyda chymaint o droseddu yn y gêm dim ond mater o amser oedd hi tan i rywun weld cerdyn melyn. Blaenasgellwr y Dreigiau, Lewis Evans, oedd y dyn anlwcus a gafodd ei yrru am ddeg munud yn y gell gosb a hynny chwarter awr o’r diwedd.
A dim ond dau funud gymerodd hi wedyn i’r Eidalwyr fynd ar y blaen wrth i Burton drosi gôl adlam, 26-25 i’r ymwelwyr gydag ychydig dros ddeg munud i fynd.
Buan iawn y dilynodd prop Treviso, Michele Rizzo, Evans i’r gell gosb ond methu manteisio yn yr un modd a wnaeth y Dreigiau wrth i’r eilydd faswr, Jason Tovey, fethu gyda chynnig at y pyst.
Yn wir, yr Eidalwyr a sgoriodd y pwyntiau nesaf. Pas wael gan Tovey yn cael ei rhyngipio gan Sgarbi a’r canolwr yn rhedeg o’i hanner ei hun i sicrhau pwynt bonws i’w dîm a rhoi wyth pwynt o fantais iddynt gyda llai na deg munud ar ôl.
Bu rhaid i Dreviso chwarae am gyfnod gyda thri dyn ar ddeg wedi hynny ar ôl i Fabio Semenzato ymuno â’r ddau arall yn y gell gosb.
Manteisiodd y Dreigiau y tro hwn wrth i Hughes fylchu trwy’r canol i sgorio wythfed cais y gêm ac wedi iddo drosi ei ymdrech ei hunan dim ond pwynt oedd rhwng y timau.
Ond er bod y cais hwnnw yn ddigon i sicrhau pwynt bonws doedd dim digon o amser ar ôl i gipio’r fuddugoliaeth wrth iddi orffen yn 33-32 o blaid Treviso.
Mae’r Dreigiau yn aros yn wythfed yn y Pro12 er gwaethaf y canlyniad ond dim ond gwahaniaeth pwyntiau sydd yn eu gwahanu hwy a Threviso yn y nawfed safle bellach. Mae’r canlyniad hefyd yn golygu fod gobeithion y Dreigiau o chwarae yng Nghwpan Heiniken y tymor nesaf drosodd.